Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Islwyn: Caniadau'r Ystorm MYFYRDOD y bywyd unig ydyw'r caniadau athronyddol hyn. Gwelwyd yn Theomemphus' Pantycelyn ymgais i ddarlunio taith yr enaid drwy'r byd yn null ffug-chwedl. Yn Ystorm Islwyn nid oes eiliw o gelfyddyd i guddio person y bardd. Gosodir profiad a myfyrdod yr enaid allan yn noeth. Ni chyhoedd- wyd y gwaith yn ystod bywyd yr awdur. Pryddest faith anghelfydd ei chynllun ydyw, cynulliad anghryno.o ganiadau gwreiddiol. Taith yr enaid pererin heibio i'r byd gelynol at Dduw ydyw testun y gân hon eto, ond bod ynddi elfen newydd nas canfyddir yn amlwg mewn llên cyn yr oesoedd diweddar hyn, sef hoffter o ddarlunio gweddau neu olygfeydd natur, a chais i ddehongli profiadau'r enaid yn nhermau'r byd gweledig elfennol. Gwelwyd y syniad yn blaguro yng nghyfriniaeth Morgan Llwyd, yn y sôn am daranau ysbrydol a daeargrynfau ysbrydol a dreigiau ysbrydol. Y mae'r syniad cyfriniol cyn hyned â meddwl dyn, ond iddo dyfu ac ymledu yn y cyfnod diweddar. Cyfunir yn Islwyn y bardd rhamant a'r cyfriniwr Crist- nogol. Carai'r mynyddoedd fel Wordsworth; ond gwelai ynddynt hefyd gysgod o'r anawsterau anesboniadwy ym mhrofiad mewnol yr enaid. Hwyr y bu llên ac athroniaeth cenhedloedd Ewrop cyn deffro o freuddwyd yr Oesoedd Canol i agor llygaid ar y byd naturiol gweledig cyn ymroddi i astudio a deall deddfau natur, cyn gweled dirgelwch a rhamant y cread elfennol. Gwawriodd prydyddiaeth rhamant ar y byd llenyddol Saesneg yng nghanol cynnwrf y chwyldro gwladol yn Ffrainc a'r chwyldro diwydiannol ym Mhrydain. Parodd yr adwaith yn erbyn hagrwch a gormes diwydiant y byd modern ganfod mwy o ddwyfoldeb nag erioed yng ngolygfeydd natur a hiraeth am ryddid yr unigeddau. Y mae'r gair natur' hefyd yn ei ystyr ddiweddar, yn cyfleu protest yn erbyn diwinyddiaeth gyfundrefnol. Purwyd y gair o'i ystyr ddrwg a thywyll, gan ddychwelvd yn nes at ystyr gyntefig y gair yn iaith y Groegiaid a'r Rhufeiniaid. Syniai'r Hebrewr am y dirgelwch mawr mewn ffigurau beiddgar. Nid oedd y ddaear ddim ond lleithig traed y Duwdod, a'r ehangder mawr uwchben yn orsedd iddo. Bu cyfnewid a marchnad rhwng dwyrain a gorllewin yn y syniad am Air Duw a Doethineb Duw, ond yn y proses hwnnw dirywiodd ystyr y gair natur.' Derbyniodd liw'r cwymp a'r pechod gwreidd- iol. Yn yr un modd tywyllodd ystyr y gair Groeg a roes fod i'r Saesneg demon.' Yr ydys yn cyferbynnu natur a gras ym marddoniaeth Pantycelyn. Os dilyni naturiaeth," medd Morgan Llwyd, di gei losgi fyth heb fynd yn ulw." Eto ni chyfyngwyd y gair i'w ystyr ddrwg hyd yn oed mewn llên grefyddol. Yr oedd dylanwad Behmen yn cystadlu â'r dylanwad uniongred ar feddwl Morgan Llwyd-" Ac er nad Duw yw naturiaeth ac na ellir ei adnabod trwy philosophyddiaeth, eto ni wnaeth Ef mo'r byd hwn yn ofer, ond a'i gosododd fel drych i weled ei gysgod ynddo." Tyfiant y gwreiddyn hwn o feddwl yw barddoniaeth Islwyn. Yn wir, ceir y syniad ar dudalennau'r Ysgrythur yn