Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau William Morris, Crist y Bardd (Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, r975), tt. 192. £ 1.50 Gallai'r teitl arwain ambell un i ddisgwyl ymdriniaeth â Christ ym marddoniaeth y byd neu ym marddoniaeth Cymru, ond nid hynny a geir. Ymgais sydd yma i ddangos nerth a hyfrydwch a phwysigrwydd yr elfen farddonol ym meddwl a chenadwri a a dulliau ymadrodd Iesu o Nasareth. Mae wedi ei seilio ar Ddarlith Davies yr awdur yn 1952, ond bu'n helaethu llawer ar ei fater oddi ar hynny, ac yn awr y mae'n llyfr arbennig ac nid ansylweddol. Ac yn sicr mae budd o'i ddarllen i bawb. Bardd yw'r awdur ei hunan, bardd o gryn ddawn a chrebwyll; ac y mae'n amlwg ei fod wedi treulio llawer iawn o'i amser i fyfyrio uwchben yr ysgrythur gyda gofal cariadus. Ar wahân i'r amwysedd y cyfeiriais ato gall y teitl wneud cam â'r llyfr mewn ystyr arall. Gall awgrymu yn un peth fod yr awdur yn meddwl am Iesu Grist fel rhyw fath o athrylith grefyddol ac yn ei osod mewn rhes o fawrion y ddynol ryw. 'Rwy'n cofio Aneirin Talfan Davies yn dychanu Iorwerth Peate am wneud rhywbeth tebyg ac yn ddu gellweirus yn llunio rhes debyg, rhywbeth fel Platon Pantycelyn Peate. Ond y mae William Morris yn ei ragair yn ymgroesi rhag y fath ddehongliad ar ei deitl, gan ddweud, Y mae'r Iesu yn llawer mwy na bardd. Cefais y fraint o'i bregethu fel "MAB Y DUW BYW ers trigain mlynedd, a daliaf ati tra medraf.' Y mae digon o ddarnau yn y llyfr sydd yn dangos mai'r Anghyffelyb yw Iesu i William Morris a bod yr awdur nid (neu nid yn unig) yn ei edmygu ond yn ei addoli. Er mwyn cymodi'r byd â Duw cymerodd yr Iesu bechodau pawb ar ei ysgwyddau Ef ei hun. Fe'i hadwaenai'r Iesu ei hun fel Mab Duw ac fel Gwas yr Arglwydd. Gallai gyhoeddi bellach: nid oes neb yn dyfod at y Tad ond trwof fi." Pentecost cyntaf yr Ysbryd Glân yw hwn (sef profiad ei fedydd), a phob Pentecost arall yn seiliedig arno. Rhyw alwad unigryw iddo Ef ei hun yn gyntaf, galwad wedyn ynddo a thrwyddo, ac ohono Ef i eraill— bawb yn ddiwahaniaeth.' Ac eto, er gwaethaf hyn oll, bydd darnau eraill yn y llyfr, ynghyda'r teitl, yn faen tramgwydd i rywrai,­yn enwedig i rai nad ydyw gogoniant dwyfol Iesu yn ddiogel onis caeir yn sownd yn arfwisg llythrenoliaeth feiblaidd. Mae'r awdur yn derbyn egwyddor beirniadaeth hanesyddol ar gynnwys y Beibl. Mae'n anghytuno, er enghraifft, â dehongliad 'Mathew' ar ddameg y Gwenith a'r Efrau ac yn dweud fod yr Efengylwyr fel pe na baent yn siwr iawn sut i gymhwyso'r ymadrodd ym Marc 4: 25 (' a'r hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo, a ddygir oddi arno '). Rhybuddia ni yn erbyn alegorïo damhegion a dywed Yr adeg y cychwyn- nodd y math yna o esbonio a dehongli oedd pan symudwyd o'r traddodiad llafar at y gwaith ysgrifenedig ynglyn â'r Efengylau.' Fel beirniad Beiblaidd cydnebydd ei ddyled i'r rhai a fu fel Dodd a Jeremias yn llafurio'n ddiarbed yn y meysydd hyn. Ar y llaw arall gall rhai o'r ffurf-feirniaid anghydweld â pharodrwydd William Morris i dderbyn fel geiriau dilys Iesu ddarnau y buasent hwy yn eu hystyried fel addasiadau pregethwyr yn yr Eglwys Fore ar ôl gweinidogaeth ddaearol y Croeshoeliedig. Ymddengys fod yr awdur yn priodoli i Iesu ei hun ffurf Mathew ar Weddi'r Arglwydd a dywediadau yn yn Efengyl Ioan sy'n bur Iohannaidd eu naws. Gwna ddefnydd helaeth o waith C. F. Burney mewn ymgais i ddod yn agosach at y ffurf Aramaeg wreiddiol ar draethiadau barddonol Iesu o Nasareth, a da hynny. Hwyrach y byddai Barddoniaeth yr Efengylau yn deitl cywirach, neu, yn well fyth, « Yr Efengylau fel Llenyddiaeth '—canys wrth drafod damhegion a pharadocsau a meddylwaith cyffredinol Iesu a materion fel eironi a hiwmor, mae'n ymestyn tipyn ar ddiffiniad rhywrai o 'farddoniaeth.' Yn wir, gan ei fod yn sôn hefyd am ddamhegion actol' Iesu gellir dadlau ei fod yn mentro y tu draw i ffiniau llenyddiaeth, hyd yn oed. Wedi dweud cymaint â hyn prin y mae angen ychwanegu mai llyfr hynod o gyfoethog yw hwn. Ni all neb ei ddarllen heb droi yn ôl at yr Efengylau yn y Testament Newydd a'u darllen hwythau o'r newydd gyda gwell dealltwriaeth a chan