Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ryfeddu'n helaethach. Os ydyw'n werth adnabod Iesu Hanes mae'n werth treulio amser gyda'r llyfr hwn. Cyflwynir inni'r Iddew a theithi ei feddwl ac arbenigrwydd ei etifeddiaeth, y cartref, y gweithdy, y synagog, y wlad a'r gymdeithas; dangosir inni hefyd rai o'r gweddau ar ddynoliaeth Iesu-ffrwythlonder ei ddychymyg, ei ymateb i i ryfeddodau natur a rhywfaint o ddyfnderoedd ac uchelderau ei fyfyrdod. Cyflwynir inni hefyd y troadau ymadrodd siriol neu ddeifiol, gormodiaith, eironi, doniolwch, gwirebau, croesebau, cyffelybiaethau. Ni ddywedir y cyfan. Wrth sôn am y Gwaredwr Eneidiau collir golwg ar y chwyldrowr hanesyddol. Ni ddatodir y tyndra rhwng yr yr Anfonedig Nefol a'r athrylith ysblennydd ei awen. Ochr yn ochr â'r moliant diwin- yddol ceir ymadroddion fel stamp ei bersonoliaeth' ac awgrymiadau ei fod yn fwy o fardd' nag o ddeddfwr neu athronydd neu resymegydd. Ond dylai ein diolch i'r awdur fod yn ddibrin ac yn ddiffuant. Gall sôn am glod Iesu Grist ar yr un tudalen ag enwogrwydd Shakespeare; ond dyry inni rywbeth sy'n llawer mwy na theyrnged gan un o fardd-bregethwyr Cymru i un o fardd-bregethwyr Israel! PENNAR Davies. HARRI Williams, Oni Threngodd Duw? (Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1975), tt. 168. £ 1.20. Casgliad o erthyglau ac anerchiadau sydd yma, ac er eu bod i gyd yn ymwneud â Christnogaeth y maent yn ddigon amrywiol ac ni bu pall ar ddiddordeb bywiog un darllenydd o leiaf. Mae gan yr Athro Harri Williams feddwl cyfoethog a barn deg a dawn amheuthun i gyflwyno ei fater yn olau ac yn drefnus ac yn ddeniadol. Yn Y Duw Personol' sonia am y bri a fu ar gategori'r personol pan ysgrifennwyd yr erthygl i'r Traethodydd yn 1954-yng ngwaith Brunner, Gilson ac Oman a hefyd Buber a Heim a fuasai dan ddylanwad dirfodaeth. Gallai fod wedi sôn am Berdyaev yntau, fel cynrychiolydd traddodiad Cristnogol gwahanol i Brunner y neo-uniongredwr o Brotestant, Gilson y Pabydd ac Oman y Protestant rhyddfrydol. Dywed yr Athro fod y pwyslais ar y personol yn debyg o fod yn bwysig yn hanes diwinyddiaeth yn y dyfodol.' Trist yw dweud ddwy ar hugain o flynyddoedd yn ddiweddarach na wireddwyd y disgwyliad. Mae'r tueddiad personol i 'ddiwrthrychu' Duw er mwyn diogelu ei uwchfodaeth wedi arwain rhywrai i ymwrthod â'r syniad ei fod mewn unrhyw ystyr yn bersonol.' Mae'n well gan Gollweitzer sôn am Dduw fel Goddrych' yn hytrach nag fel Person,' ac y mae Gregor Smith yn defnyddio'r ymadroddion Bod amhersonol' ac Ysbryd amhersonol.' Sut y mae gweddio ar y fath Anwrthrych ? Cafodd y gyfrol ei theitl yn nheitl un o'r traethodau, sef 'Oni threngodd Duw?' a chafodd hwnnw ei deitl o gerdd enwog T. Gwynn Jones, Madog.' Diddorol yw sylwi i ddau fardd Cymraeg adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, Hedd Wyn (' Duw ar drai ar orwel pell') a T. Gwynn Jones (ym Madog ') ragfynegi'r profiad o Farwolaeth Duw a ddaeth yn glefyd diwinyddol yn y chwedegau. Trafodaeth ar y clefyd hwnnw yw traethawd Harri Williams, ac ni ellid ei heglurach. Cysylltwyd dysgeidiaeth Altizer ag athrawiaeth Patripasiaeth, ond y term Sabeliaeth Bindodaidd' a geir gan yr Athro yma, ac y mae perthynas amlwg rhwng y ddau. Yr un mor effeithiol yw ei ymdriniaeth â'r Positifiaid Rhesymegol mor gynnar â â 1939 a syniadau Macmurray yn 1941. A daw ei holl rinweddau i'r amlwg yn ei ddadansoddiad o ymagwedd Reinhold Niebuhr tuag at 'basiffistiaeth,' ond yma mae wedi methu â'm hargyhoeddi o gywirdeb ei ddadl nad oes dim sail i'r dyb fod syniadau Niebuhr yn elyniaethus i basiffistiaeth.' Mae'n wir fod 'lle i basiffistiaeth yn ffrâm feddyliol Niebuhr' yn yr ystyr ei bod yn tystio i'r delfryd uchaf ac i ysbryd y Groes, ond condemnia heddychwyr am fynnu cymhwyso eu hegwyddor yn ymarferol yng ngwrthdrawiadau presennol y byd hwn ac yn wir fe'u cyhudda o heresi. Mae yn y gyfrol hefyd sylwadau call ar fugeilio yn y weinidogaeth a chyflwyniadau gwerthfawr i syniadau Freud a Jung fel y cyffyrddant hwy â chrefydd; a blasus dros ben yw'r darnau ar hanes a natur yr emyn-dôn ac ar Barth a Mozart.' Rhyfedd gan Harri Williams fod Barth yn rhoi Mozart ar y fath binacl. Byddai Barth yn gwrando ar record o waith Mozart yn feunvddiol cvn troi at ei lafur. Haerai fod Mozart yn