Skip navigation

Y Traethodydd

 - 

Cyf. CXXXII (562-565) 1977

Ysgrifau Beirniadol, ix. Book review.

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
gwaetha'r dirywiadau a'r colledion y clywir amdanynt ar bob llaw, y mae cyfrol o'r
natur hon yn dod 'r gair iach' i'r meddwl. Mae ynof duedd gyson i ddyfynnu
ymadrodd a glywais o enau G. M. Ll. Davies adeg y dirwasgiad mawr a'i addasu i'm
dibenion fy hunan os bydd arwyddion o anobaith a digalondid o'm cylch ymhob man,
sef Ynysoedd Gobaith '-hynny yw, ynghanol moroedd o ddigalondid. Y mae'r gyfres
gyfrolau yma'n haeddu'r ymadrodd yn llawn-nid yn unig oherwydd ansawdd y
cynnwys, ond ar ben hynny, y cysondeb, y peth diflino, a beth bynnag yw'r gair sy'n
golygu'r gwrthwyneb i 'di-ddal.'
Fe allwn sn am amrywiaeth o fath arall, sef yr amryw gyfnodau yn hanes ein
llenyddiaeth a gynrychiolir gan yr erthyglau--cyfnod y cywyddwyr, cyfnod Cymraeg
Diweddar Cynnar, y cyfnod modern a'r cyfoes, ac nid o lenyddiaeth Gymraeg yn unig
y daw'r pynciau. Gobeithio y bydd y golygydd a'r awduron yn fodlon imi ddweud un
peth, sef am bwysau' yr erthyglau. Efallai mai myfi sy'n camsynied, ond yr wyf i
er pan ddechreuodd y gyfres wedi ceisio dirnad pwy oedd darllenwyr yr amryw
benodau: myfyrwyr Cymraeg y Colegau Prifysgol a'r Colegau addysg a chyda nhw,
myfyrwyr y chweched dosbarth a'u hathrawon a lleygwyr deallus a chraff, heb fed
yn academaidd ond yn fawr eu diddordeb mewn llenyddiaeth, er enghraifft, aelodau
o'r amryw ddosbarthiadau allanol a mynychwyr y Babell Ln. Gan mai cyhoedd
cymysg fel y rhai a nodais yw ein darllenwyr, onid yw ffocws rhai o'n cyfranwyr yn
anaddas, wrth fod arddull a diwyg a 'golwg' allanol y penodau'n rhy ysgolheigaidd?
Teimlo'r wyf fod eisiau ysgafnu'r defnydd weithiau; nid bod yn syml ac yn fabanaidd
elfennol yw hynny; cadwer yr holl dystiolaeth ysgolheigaidd, wrth reswm, pryd y
byddir yn cyhoeddi yn y cylchgrawn a fwriedir ar gyfer ysgolheigion ac arbenigwyr,
ond y mae perygl i apparatus yr ymchwil darfu'r lleygwr deallus a pheri i'r darpar
fyfyriwr newid un o'i bynciau gradd, efallai. Cofiwch chi rai ifainc am hanes y glowr
diwylliedig a aeth ryw brynhawn Sadwrn i siop lyfrau Morgan a Higgs i brynu gramadeg
mawr John Morris-Jones: gobeithio y bydd cyhoeddwyr y TRAETHODYDD yn fodlon
argraffu'r hyn a ddywedodd y glowr pan geisiodd ddarllen y gramadeg, sef 'Aljebra
myn jiawl i!'
Abertawe. T. J. MORGAN.
R. CYRIL Hughes, Catrin o Ferain (Gwasg Gomer, 1975), tt. 220..e2.25.
Os yw llenyddiaeth Cymru yn brin o gwbl, mewn llenyddiaeth bendefigaidd y
mae'n brin. Rhyfedd dweud hyn a barddoniaeth yr Oesoedd Canol yn un doreth o
ganu uchelwrol, ond wedi hynny daw'r mudandod. Ychydig o sgrifennu am uchelwyr
a fu yn y canrifoedd canlynol. Amheuthun o beth felly yw dyrchafu un o ferched
yr haen uchaf a gweu o'i chwmpas ddeunydd nofel. 'Mae hi'n haeddu cael bod mor
enwog  neb o ferched Cymru,' meddai'r awdur, ac i'w ddychymyg ef y dylid bellach
briodoli enwogrwydd Catrin o Ferain. Felly, wrth gwrs, y dylai fod oherwydd nofel ac
nid dogfen hanesyddol sydd yma, ac ar dermau nofel y dylid barnu'r llyfr. Er hynny,
y mae'r awdur yn hollol deg, bron y gellid dweud yn rhy deg, a'i ffynonellau. I'r sawl
a fyn chwilio, y mae dogfennau teulu Lleweni ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol, ond
yn fwy na hynny y mae l darllen manwl ac eang yn y cyfnod ar y nofel. Ar un llaw,
fe rydd hyn naws a chywirdeb i'r stori; ar y llaw arall y mae yna berygl weithiau i
orgyfoethogi'r cynllun  sylwadau neu hanesion sy'n tynnu'r darllenydd oddi ar y
trywydd. Cyfleu yn hytrach na mynegi yw gwir gamp y nofelydd hanesyddol, os nad
yr hanesydd hefyd, a thybed nad yw Mr. Hughes, yn ei awydd teg i sgrifennu nofel
gyfoes gywir yn gorliwio'r cyfnod, a cholli golwg ar y cymeriad. Er enghraifft, ar
ar d. 73, wrth ddisgrifio'r wledd, cyfeirir at Ruffudd Hiraethog, Gutun Owain, Dafydd
Nanmor; Simwnt Fychan, William Cynwal a William Llyn-clwstwr o feirdd sydd
braidd yn anodd ei lyncu ar un darlleniad, ac ar d. 194, mewn cyswllt arall, daw Anthony
Kitchen, Thomas Goldwell, Richard Davies, Henry Morgan a Gruffudd Robert i gyd i
mewn i'r sgwrs. Credaf y byddai'n well nofel heb yr ysbrydion amherthnasol sy'n dod
i'r amlwg o dro i dro.
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.