Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dôl-y-bont. s R. GERALLT JONES Wrth ail-ddarllen Dail Pren yn y gaeaf Uwchben y Preselau mae dirgel gymylau'n crwydro'u colled. Ond mynnodd y? haul ei eirlysiau o'r pridd fel arfer. Mewn dau gae mae gwae yn yr awyr a gwacter a sawr dolur. Ond canodd ei gennin Pedr utgyrn aur. O fôr daeth gwenoliaid i'w nythod yn Nyfed a deiliodd y coed ar eu canfed yng Ngwaun Parc y Blawd. Roedd yn un â phob gwreiddyn gwâr sy'n cyfannu tir; periglor glân yn trywanu â'i ganiad clir ellyll a chawr. Yn ei wâl, y tu ôl i'r llygaid mawr fel llynnoedd na phlymiodd neb i'w dyfnder, beth oedd yr hyn a guddiai ? Yn ei dŷ o glai, mor llwm ei lun, beth oedd y trysor a wnâi'n brydferth sŵn ei dawelwch ? a Yn ei ddau gae, pa rai a welodd yn dorf yn y Не hwnnw, â'r golau'n dynn amdanynt? Pa rai oedd cerddwyr y maes? Y BARDD