Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PERERIN WYF Pererin fûm mewn anial dir yn crwydro yma a thraw heb ddisgwyl unrhyw awr fod tŷ gododd fy nhaid gerllaw, ty cadarn luniwyd ganddo fe a'i dad o gerrig durfin cwarel y foel ar arch cymydog, bellach i'm chwilio'n derfyn. Ac ni thebygais glywed swn nefolaidd rai o'm blaen wedi gorchfygu a mynd trwy dymhestloedd dwr a thân. Nid ysbryd sanctaidd, chwaith, i mi fu yn y niwl a'r tân, ond ysfa ddall, wallgofus dyn i lygru ei fyd achlân. Eto ni wyrodd, hyd y gwn, gamre cloffion fy hynt; unigrwydd dirgel fu fy rhan hyd hyn o'm geni gynt. Daeth cyffyrddiadau melys siawns wrth dreiddio'r dorf ddi-rif golledig, cnith ambell wefus fwyth, sidanaidd groen a chnif. calon wrth galon, amryfal swyn geiriau, gwin yn ffrydio ac, o ryw wyneb hawddgar, gwên dros dro yn ddolen gydio; 'falau i ddannedd, traed noeth ar wellt tra'n rhifo fflachiau Enlli, sawr mwg mawn yn awyr bryn; wedi disberod, cartrefu lle cefais greirfa addas er asio .cysylltiad closa'r gwáed a'r nwydau mewn un cylch. Ai er hyn y bûm greiriwr,