Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWPLEDI Mwyn â'i gwmni ymhob man, Dreiniog a ymdry'i hunan. Hwyliog ein barnau helaeth 01 a blaen wrth chwaen a chwaeth. O hau drain gwylia drannoeth Rodio'n wyllt a'th draed yn noeth. Daw i'r oes ddidostur hon Eto eiriau tirion. I fwrw ei ing dwfn a'i fraw Aeth i eistedd wrth ddistaw. Rhaid ffrwyno talent plentyn Drwy deg rhag andwyo'r dyn. Mae'r gŵr sy'n dymer i gyd Yn ŵr rhyfel mawr hefyd. Dwg ha' yr eira oerwyn Yn nŵr gloyw afon i'r glyn. Y diddig fonheddig wâr A ŵyl gamol ei gymar. Araf y dringir hirallt, Â chur wedi gwynnu'r gwallt. Bob rhad yng ngwlad ei dadau, A dim yn ehangfyd Iau. Cluda'r tes dan ei gesail Ei gawod ddiod i ddail. Hen, o'i hydref a edrych Draw ar hyd camder ei rych. I fryd yr hafan erioed Hoff yw meingyrff y mangoed.