Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Lladd neu Adfer yr Iaith MAE diddordeb rhyfeddol mewn dwyieithedd erbyn hyn ymhlith carfan sylweddol o wyr academaidd, yn arbennig felly rai sydd wedi dewis arbenigo mewn ieithyddiaeth bur, ieithyddiaeth gymhwysol, ieithyddiaeth gymdeithasol neu seico-ieithyddiaeth. Mae i Ddwyieithedd ei Ie hefyd fel maes astudiaeth mewn Adrannau Prifysgol sy'n ymwneud yn bennaf â Chymdeithaseg neu Wleidyddiaeth, ac y mae cyfeiriadau at Gymru'n weddol niferus yng ngweithiau arbenigwyr yn y maes tyfiannol a diddorol hwn. Rhoddwyd cryn dipyn o gyhoeddusrwydd yn ddiweddar yng Nghymru i astudiaeth yr Athro W. B. Lockwood o Brifysgol Reading o ddiflaniad ieithoedd ym Mhrydain, ac yn arbennig felly ei ddarogan y bydd y Gymraeg hithau'n iaith farw cyn pen fawr o dro. Dewisodd awdur o'r cyfandir yntau roi'r teitl Y Gymraeg ac Ieithoedd Eraill sy'n Marw yn Ewrop i gyfrol a ysgrifennodd, ac fe olygodd Mr. Meic Stephens gyfrol drwchus a phwysig yn dwyn y teitl Linguistic Minorities in Western Europe. Mae'n naturiol i arbenigwyr yn y maes wneud sylwadau daroganus am y Gymraeg. Y farn gyffredin yn eu plith yw bod mynd o dan yr hanner miliwn o siaradwyr yn arwydd bod iaith enciliol ar fin mynd a'i phen iddi. Disgwyl- iant y bydd Cyfrifiad Swyddogol 1981 yn dangos nad oes yng Nghymru bellach gymaint â hanner miliwn sy'n medru'r iaith Gymraeg. Felly, yn eu barn hwy, mae hanes yr iaith Gymraeg yn dirwyn i ben, oni ddaw rhyw dro ar ei byd. Er bod y maes academaidd hwn yn boblogaidd ac yn ffasiynol mewn llawer rhan o'r byd, ni roddwyd fawr o sylw iddo yng Nghymru, ac eithrio ychydig yn Adrannau Addysg Colegau'r Brifysgol. Mae o leiaf un Cymro, er hynny, y gwelir cyfeiriadau mynych at ei waith, sef Mr. E. Glyn Lewis, y cyn- Arolygydd Ysgolion a fu'n gyfrifol am ysgrifennu adroddiad pwysig ar Le'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Cymru yn gynnar yn y pumdegau, ac awdur cyfrol bwysig a gyhoeddwyd yn yr Iseldiroedd dan y teitl Multi- lingualism in the Soviet Union, yn ogystal ag amryw gyfraniadau gwerthfawr eraill. Yn sgîl datblygiad astudio dwyieithedd, fe ddatblygodd cwlwm o dermau, a hefyd fwrn go dda o jargon di-alw-amdano, sy'n berthnasol i'r maes. Bu'n rhaid chwilio am dermau cyfatebol i'r rhain yn yr iaith Gymraeg er mwyn trafod y maes yn naturiol yn yr iaith. Nodwn rai ohonynt yn yr erthygl hon, gan gyfeirio at eu hystyron, ac weithiau eu harwyddocâd yn y cyd-destun Cymreig. Yn wir y mae llawer iawn o'r agweddau ar ddwyieithedd y bu trafod arnynt ar raddfa ryngwladol i'w gweld yn amlwg o'n cwmpas ni yma yng Nghymru. Prin fod angen cyfeirio at unrhyw wlad arall er mwyn eu hesbonio a'u trafod. î UNIGOLION DWYIEITHOG. Rhown y sylw cyntaf i rai o'r termau sy'n ymwneud â dwyieithedd yn yr unigolyn.