Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dyma'r un a ddaeth Iesu Grist" (i Ioan 5 6) DYLETSWYDD sy'n dod i ran pob cenhedlaeth o ddiwinyddion Cristionogol yw ceisio cyflwyno'r Efengyl mewn iaith ac idiom sy'n gyfoes a dealladwy. Wrth wneud hyn, wrth gwrs, rhaid bod yn ofalus i ddiogelu gwirioneddau sylfaenol y datguddiad Cristionogol ei hun. Yn ddiamheuol, gall diwinyddiaeth a moeseg sydd wedi eu cyflwyno mewn dulliau newydd, a'u cyfleu mewn delweddau sy'n golygu rhywbeth i'r cyfnod, fod yn llwyddiannus eu hapêl. Er hynny, rhaid i bob cenhedlaeth yn ei thro gofio fod yna gwestiwn pwysicach nag A yw'n gyfoes? ­- a'r cwestiwn hwnnw yw, A yw'n wir? Mae awdur Epistol Cyntaf Ioan yn ymwybodol iawn o hyn, a dyna sydd wrth wraidd ei wrthwynebiad ffyrnig i ymdrech benodol i gyflwyno'r Efengyl mewn dull newydd. Ni ellir bod yn sicr pwy oedd yn gyfrifol am yr ymdrech hon, ond i awdur yr Epistol, 'roedd yn fethiant truenus am nad oedd ei Christoleg yn gyson â'r ffaith i Iesu ddyfod yn y cnawd," ac am fod ei moeseg yn antinomaidd ei naws. Mewn geiriau eraill, 'roedd yn ymgais i ddidoli'r Ffydd oddi wrth y ffeithiau diriaethol a hanesyddol hynny a oedd o hanfod ei gwir ystyr a'i harwyddocâd. (Am drafodaeth ar awduraeth, saer- nïaeth a chyfeiriad i loan, gweler I. Thomas, Arweiniad Byr i'r Testament Newydd, 1963, tt. 201-8; ac O. E. Evans, Llên loan,' Efrydiau Beiblaidd Bangor (gol. D. R. ap Thomas, 1973, tt. 134-7). Yn wir, 'roedd y cyflwyniad athraw- iaethol a moesegol hwn mor newydd a gwahanol, nes rhwygo'r gymdeithas Gristionogol yn y fan a'r lle. Yn ôl pob golwg, aeth pethau mor ddrwg nes i'r athrawon newydd arwain eu disgyblion allan o gymdeithas y rhai a'u gwrthwynebai. Ond nid oedd hyn chwaith heb ei effaith ar y gymdeithas honno. Gyda'u hymadawiad, siglwyd y gweddill i'r fath raddau nes bod angen eu cadarnhau drachefn yn y Ffydd. Y cwestiynau sylfaenol a'u blinai oedd, "Pwy sy'n iawn? A oes unrhyw wirionedd yn y ddysgeidiaeth newydd?" At Gristionogion yn yr argyfwng hwn yr ysgrifennwyd Epistol Cyntaf Ioan. Wrth annerch ei ddarllenwyr, mae'r awdur yn cyflwyno amlinelliad o'r wir Efengyl iddynt, gan geisio'u hargyhoeddi mai hwy oedd "yn y goleuni Yr wyf yn ysgrifennu'r pethau hyn atoch chwi, y rhai sydd yn credu yn enw Mab Duw, er mwyn i chwi wybod fod gennych fywyd tragwyddol (t loan 5: 13). Â'r awdur yn ei flaen i ddatgan iddo fod yn gydymaith i'r un a gyffesir fel y Gair ymgnawdoledig,-iddo'i weld, a'i glvwed, a'i gyffwrdd. Ni chafodd ei ddarllenwyr y profiad arbennig hwnnw, ond mynega'i awydd a'i ddymuniad i rannu ei brofiad gyda'i blant bychain yn nydd eu profedigaeth. Sylfaen athrawiaethol yr Epistol yw'r pregethu a'r dysgu apostolaidd, sef y Kerygma a'r Didache, neu, yn iaith yr Epistol ei hun, y dystiolaeth a'r gorchymyn (C. H. Dodd, The Johannine Epistles, 1946, t. xxvii). Mae'r