Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llenyddiaeth Lydaweg y 15fed Ganrif YN llenyddiaeth Lydaweg y bymthegfed ganrif y mae yna bedair agwedd neu bedwar dosbarth o waith i'w hystyried, sef i. An dialog etre Arzur ha Guyngîaff, 1450, y gwaith hynaf o bwys yn y llenydd- iaeth honno; 2. Buez Santes Nonn hac he map Deuy, tua diwedd y ganrif, drama firaçl; 3. Tair cerdd hir: (i) Tremenuan an Ytron Guerches Maria, (ii) Vemzec leuenez Maria, (iii) Buhez mab den; 4. Nouelou Ancien, sef carolau. Y mae'n nodedig, wrth ystyried y pedair hyn fod tair ohonynt yn ddramatig o ran adeiledd. Yn y ganrif gyntaf hon pryd y mae modd inni archwilio defnyddiau Llydaweg gweddol helaeth,l eisoes fe welwn duedd- beniad tuag at y ddrama. Wrth gofio'r lle sylweddol sydd i ddrama yn y canrifoedd wedyn, y mae'r pwyslais cynnar hwn yn adlewyrchu eisoes nerth traddodiad lle y ceir mai'r ddrama yw'r elfen fwyaf sylweddol a'r fwyaf diddorol byth wedyn hyd y ganrif hon. Mewn gwledydd eraill, megis Cymru a Ffrainc, ffenomen sy'n perthyn i'r Oesoedd Canol yw'r ddrama firagl: y mae'n is-fath y darfu amdani; ond yn Llydaweg parhaodd ar ryw olwg hyd yr ugeinfed ganrif, a'r gwaith a ystyrir gan amryw feirniaid yn binacl ar lenyddiaeth Lydaweg ar ei hyd yw Gurvan, ar marc'heg estranjour gan Tangi Malmanche yn 1923, gwaith a ddisgrifiwyd gan ei awdur â'r label Mister.' Pan aeth Fañch an Uhel (F. M. Luzel) ati yng nghanol y ganrif ddiwethaf i hel caneuon a chwedlau gwerin, gallodd gasglu pedwar ugain a saith o ddramâu gwerin, y rhan fwyaf yn dal heb eu cyhoeddi. Dywed Dr. Per Denez am y cyfoeth hwn 2 Dwy'n unig o'r 87 o ddramâu a gasglodd An Uhel a gafodd eu cyhoeddi; mae 65 o'i lawysgrifau ar hyn o bryd ynghadw yn y Llyfrgell Genedlaethol ym Mharis.' Dengys hyn mor eithriadol, o'i chymharu â llen- yddiaeth Gymraeg, dyweder, fu'r ddrama yn hanes llenyddiaeth Lydaweg, ac eisoes yn y bymthegfed ganrif fe welwn ddechreuadau'r pwyslais hwn. Nid drama firagl, serch hynny, yw'r gwaith cyntaf sydd gennym yn Llydaweg, eithr peth a berthyn o ran ffurf i'r hen ymddiddanion Cymraeg a geid dros gyfnod o ryw dair canrif o 850 ymlaen, ac o ran cynnwys i'r daroganu a ddaeth i fri yn yr un cyfnod ac a barhaodd ymlaen i'r unfed ganrif ar bymtheg. Yn hanes drama Cymru y mae'r cyfnod 850-1150 yn un y mae gofynnod go ledrithiol yn hofran uwch ei ben. Heblaw'r drylliau sydd gennym o weithiau dramatig am Lywarch Hen a Heledd, y mae gennym nifer o dameidiau o ymddiddanion-Arthur a'r Eryr; Arthur a Glewlwyd Gafaelfawr; Melwas a Gwenhwyfar; Trystan a Gwalchmai; Myrddin a Gwenddydd; Ugnach a Thaliesin; Trystan, Cyheig a chor; Gwyddneu Garanhir a Gwyn ap Nudd; Myrddin a Thaliesin; Ysgolan; a'r coegawg. Pan drown i ystyried sut y cyflwynid y gweithiau hyn yn y llysoedd, y mae'r cwestiwn yn mynd yn fwy