Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau J. EDWARD WILLIAMS, A Dacw,r Pren (Argraffwyd gan J. W. Thomas a'i Feibion, Gwasg y Sir, Llandeilo, Dyfed. Pris 6oc. Cludiad ioc. I'w gael oddi wrth yr awdur, ii, Heol Cilgant, LIandeilo Fawr, Dyfed). Pan ddaw cyfrol o brydyddiaeth o law'r Parch. J. Edward Williams, LIandeilo, bron na ellir proffwydo ymlaen llaw y bydd yn rhannu'n ddwy ran gweddol gyfartal, un rhan yn emynau a'r rhan arall yn gerddi. Gellir dweud hefyd yn weddol hyderus y bydd y cynnwys yn raenus o ran iaith a mynegiant. Eithriad yw peth fel yma a draw' am yma a thraw' yn y gyfrol hon. Cyfyd yr emynau a'r cerddi o brofiad gweinidog yn y Gymru sydd ohoni, a nodweddir y cyfan gan ddiffuantrwydd mawr. Yn ôl Puleston yn ei ysgrif wych Emynau Cymru yn y gyfrol Meddyliau Puleston darn o farddoniaeth grefyddol y gall cynulleidfa gyffredin ei ganu yw emyn, a phrin y gall neb ragori ar y darnodiad cryno hwn. Nid emyn ond a genir. Carwn ychwanegu at y darnodiad hwn eiriau George Sampson yn ei ddarlith adnabyddus 'The Century of Divine Song' a gyhoeddwyd yn ei gyfrol Seven Essays The purpose of a hymn is to make known, in a form suitable for congregational singing, religious doctrine, religious duty, and religous mythology.' Prydyddiaeth seml felly sy'n nodweddu emyn, ac er y gellir cwyno'n fynych nad yw emyn yn farddoniaeth, gellir cwyno'n amlach gyda rhai emynau diweddar, digon barddonol, nad ydynt yn emyau. Dyna'r meini prawf. Ceisiwn weld pa fodd y mae emynau'r gyfrol hon yn cyflawni'r amodau. Beth am 'religious doctrine, religious duty, and religious mythology' George Sampson ? Ceir enghraifft o athrawiaeth yn yr emyn Y Groes' a sylfaenwyd ar i Cor. 23 24- Fe aeth y tramgwydd ymaith O'th Groes. Waredwr mawr, Cans gwelwn rym dv gariad. Yn ffrydio drwyddi'n awr. I'n hisel stad y daethost Er achub dyn a'i fyd, A sacrament tosturi A fu dy ddioddef mud. Mynegir dyletswydd y Cristion yn yr emyn Teyrnas Dduw': Nid ar y gorwel mae o gyrraØd byd Ond yn ein plith mewn myrdd galonnau drud, Ar alwad Crist i'r antur awn yn awr Yn llysgenhadon taer ei Deyrnas fawr. (' Myrdd o galonnau fyddai'n gywir.) Wele enghraifft hefyd o fythoìeg, neu hanes os mynnir, yn yr emyn 'Gweddi Nadolig Rhoddaist seren gynt i'r doethion Angel nef i fugail tlawd Er eu dwvn at Grist v Ceidwad Lle'r wyt Ti yn urddo cnawd. Rho in arwydd Heddiw, Arglwydd, A'n dwg ninnau ato Ef. Ychwaneger at y tri dosbarth hwn emynau sy'n codi o brofiad personol yr awdur, a hwy yn fy marn i yw emynau mwyaf llwyddiannus y gyfrol hon, megis Cri Pechadur, Cofio; Y Crist Mawr' a'r emyn cyntaf yn y gyfrol Credaf Ynot.' Ond y mae rhai mân frychau y carwn alw sylw ,atynt.