Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Perthyn i'r emyn ei arddull a'i eirfa ei hun ac fe sylfaenwyd y rheini ar yr Ysgrythur. Peryglus yw i emynydd, boed Gymro neu Sais, fentro ymhell oddi wrth iaith y Beibl yn y Cyfieithiad Awdurdodedig, boed y cyfieithiad hwnnw mor anghywir ag y bo 0 safbwynt beirniadaeth Feiblaidd. Nid yw pob gair yn y Beibl ychwaith yn gweddu mewn emyn, fel y dengys y llinell chwerthinllyd hon o unig emyn Tegla: 'Maddau fy mwhwman ffôl/ Ac nid eithriad yw'r Llyfr Gweddi Gyffredin fel y dengys yr enghraifft hon o waith J. Edward Williams: Ti'r Bywiawdwr, tyrd â'th ruthur.' Dywaid Puleston y byddai Richard Jones o'r Wern yn gofyn i'w fab, a oedd yn lleisiwr da, ganu ei emynau yn ei glyw gan ofyn, Na nhw ganu, dywed?' Nid yw'r llinellau a ddyfynnwyd yn canu. Rhaid i'r emynydd hefyd osgoi geiriau beirdd. Priodol iawn i fardd ddweud, Dy dâl fel llygaid y dydd,' ond ni wedda'r gair mewn emyn, fel y dengys yr enghraifft hon: Nertha fi, o'm bywyd chwâl I roi'r goron ar dy dâl. Diamau mai'r amcan oedd osgoi ymadroddion a orfynychwyd" ond credaf y byddai'n well i emynydd fodloni gyda Dyfed ac eraill i roi'r goron ar Ei ben ac osgoi ymadroddion dieithr i fyd yr emyn. Nid yw'r ymadrodd bywyd chwâl yn rhy hapus ychwaith a daw'r geiriau grwn' (mewn emyn cynhaeaf) a blwng fel gwybed i'r ennaint mewn emynau eraill. Wele enghraifft o reidrwydd y mydr yn gwneud y mynegiant yn afrwydd: Fel hwy y pedwar gynt a gaed Ddug glaf o'r parlys at dy draed a thueddir ambell dro i afradu ansoddeiriau am yr un rheswm: •Holl allu'r Duw rhyfeddol A'i wych ddoethineb Ef. Sylwais ar un enghraifft o dor mesur yn nhrydedd llinell y pennill hwn sy'n ei wneud yn anghanadwv: Deffro ni, dy Eglwys, Arglwydd, I'n cymynrodd ddrud: Iesu'r Prynwr atgyfodedig Gobaith y byd. Cymru, cyfeillion, cymeriadau, dyna sy'n symbylu cerddi'r gyfrol ac ofnaf imi ddefnyddio gormod o ofod eisoes i allu gwneud dim ond eu crybwyll. Tueddir weithiau i ganu'n rhy rwydd a dirywia'r gerdd yn rhigwm yn rhai o'r cerddi llacaf eu gwead. Eithr y mae gan J. Edward Williams ei lais ei hun ac fe'i clywir gliriaf yng nghaethiwed y soned megis y dengys yr enghraitft hon: MAIR Dibechod? Na, dim mwy na'r myrddiwn blêr Sy'n rhygnu byw â'r gwenwyn yn eu gwaed. Dy eni'n wyrthiol? Na, dy hoenus wêr Oedd ffrwyth y ddau y'th fwythwyd wrth eu traed Yn forwyn fythol? 'Choelia'i fawr, a'r gair Yn enwi saith a'th alwai'n wresog. "Mam." Ni phrofaist angau ? Do. Helbulus Fair Daeth yntau'r gwalch i'th nôl â'i gadarn gam Ond wedi'r chwalu i gyd, gwelaf di'n glir Yn glain o ferch ar foelydd Jiwda gynt, t i .J<): A'th syn Fagnificat sy'n dyst mae gwir I Dduw ddod trwot i'w achubol hynt. Fy mhennaf braint, O, ddewraf, ddiwair un, Yw cnawdio/ynd? finnau Fab y Dyn.