Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi Rhiniau syn yr ynys honno, a thecach yw nag Ithaca chwedl a neuaddog ogof, hen ei hafan hi, lIe bu pen Odysews wrth olewydden yn dwys huno o gur ei siwrneiau gynt: Y neuaddog ogof, ogof ddeuben lle y pennwyd y drws gogleddol yn ddidol i ddyn, a drws y deau, a'r mynd i'w risiau diwall, a adawyd yn unig i'r duwiau. A thecach yw nag Ithaca chwedl — y gwâl yng Ngwales Diheneiddio, diofid ei neuaddau, dialar o fyd ei aelwyd, di-gŵyn a di-gur i deulu gwyr o bwyll y di-lwgr ben o edfryd Bendigeidfran. A dyma ddôr nad yw i'w hagoryd o dir i'r môr draw, ar ymorol gan ddyn o'i awydd am ddedwyddwch. Mae'r hawl a fedd marwolion, o'i herfyn, yn darfod wrth droed dierth y drws. am mai, yn nhueddau'r môr yn nhywyn y deau, gwin sy'n gyfrinach ei hoen a'i foliant yw Aber Henfelen. Gw. Homer: Odyseia i^. I02 ABER HENFELEN EUROS BOWEN.