Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sylwadau ar Gerdd Deledu AM fod eu cvd-destun yn llifeiriol-gyfnewidiol, tynged y frawddeg lafar a'r weithred weladwv fel ei gilydd, yw trenei'r eiliad v cânt eu creu. Ond gwelodd dyn. a hynnv ymhell yn ôl yn ei hanes. fod gwir werth mewn cofnodi rhai gwirioneddau a ddatganwvd a diewyddiadau i welwyd er mwvn eu trosglwyddo i eraill nad oeddvnt vn dystion ohonynt. Bu dyfeisio'r grefft o ysgrifennu a thynnu llun yn foddion i atal ychydig ar y llifeiriant cyd- destunol drwy gofnodi'r pwysie a'r trawiadol. Yn wir. hyd at ddechrau'r ganrif hon dyma'r unig ddau gyfrwng cyfathrebu oedd ar gael i oresgvn lle ac amser. Fodd bynnag. ymestynnodd technoleg y ganrif bresennol y dechneg o gofnodi gweithgareddau dvn mewn modd mwy credadwy ac mewn dull sy'n nes at hanfod y gwreiddiol. Daeth y peiriant recordio a'r camera-symud i dragwyddoli sgwrs ac ymddygiad naturiol pobl. a bellach cyfarpar lled gyffredin mewn ysgol a choleg yw'r peiriant tâp-video sy'n atgynhyrchu llais a llun yn ddisymwth: v gobaith yw bod plant a mvfyrwyr yn cael eu hyfforddi i drin vr adnoddau hyn yn greadigol. Da o beth, fodd bynnag, vw gweld vr Eisteddfod Genedlaethol vn fvw i'r oes ac yn cydnabod y dulliau cyfathrebu cyfoes y radio, y ffilm a'r teledu drwy hybu llenorion i gyfansoddi ar eu cyfer. Ond, hyd vma, prin yw'r rhai sydd wedi llwyddo i gymhwyso'u doniau awenyddol i'r meysydd hyn. Un o'r ychydig a ymgodymodd yn llwyddiannus â'r cyfryngau newydd yw'r Dr. Gwyn Thomas. Yn y sylwadau hyn bwriedir canolbwyntio ar un o'i gerddi, a cherdd yw honno yr enwyd cyfrol ar ei hôl, sef Cadwynau yn y Meddwl* Teyrnged i'r diweddar Barchedig Martin Luther King ydyw ac vnddi olrheinir yr hyn a'i cymhellodd i arwain y Negroaid yn erbvn trefn ormesol yr Amerig. Cerdd allweddol ar lawer ystyr yw hon. Yn union fel y datgelodd Dan y Wenallt (Dylan Thomas) ogoniannau'r gerdd radio teimlaf y gallai cerdd y Dr. Thomas ddatgelu i feirdd rai dulliau o feistroli cyfrwng diwedd- arach y teledu. Beth y dylid anelu ato mewn cerdd deledu? Nid oes neb, am a wn i. wedi dadansoddi'r maes yn fanwl nac ychwaith wedi pennu rheolau ar ei chyfer. Ond wrth graffu ar ymdrech y Dr. Thomas nid anodd synhwyro bod rhaid wrth rai egwyddorion a chanllawiau. A chrybwyll rhai o'r rhain yw fy mwriad yn hyn o beth gan sylweddoli, ar yr un pryd, mai lled anehyflawn fydd yr ymdriniaeth gan mai'r gair printiedig, a rhyw awgrym neu ddau am y lluniau, sydd o'm blaen a dim ond rhyw frith gof am y ffilm gyflawn. Yn gyntaf, gwelir bod y darluniau a ddangoswyd yn gefndir i'r gerdd yn syml eu cynnwys, e.e., t. i. Corff yn syrthio i wagle a'r ffilm wedi'i harafu; Llun o Martin Luther King yn gorff; Ffilm o gynhebrwng Martin Luther King; Corff yn syrthio i wagle. Pe byddai'r elfen weledol yn orlwythog o fanylion. pe byddai llawer yn digwydd ar y sgrin a hwnnw'n gymhleth, yna byddai *Gwyn Thomas, Cadwynau yn y Meddwl (Gwasg Gee, t976). £ 3.00.