Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cwch Bach Yn Hwylio SAFODD William Roberts yn stond gyda'i lygaid wedi eu hoelio ar y dwr. Dyma'r tro cyntaf iddo wneud hynny er ei fod yn cerdded wrth ei bwysau tua'r harbwr bob bore ers dros flwyddyn bellach. Hyd yma, nid oedd yr hyn a welai yno wedi cynhyrfu'r mymryn lleiaf arno. Nid rhyfedd hynny chwaith. Pridd ac nid dwr, anifeiliaid ac nid cychod oedd ei bethau ef. O'r herwydd, dyn â'i wreiddiau'n ddwfn yn y tir a fuasai erioed a dyn y tir a fuasai eto hefyd oni bai i Kate Elen. ei wraig, Iwyddo i'w ddarbwyllo ei fod wedi cyrraedd oedran ymddeol a'i bod hi'n hen bryd i'r ddau ohonynt gael hoi fach. Hoi oedd y peth olaf yn y byd a fynnai William Roberts ac ni buasai'n fyr o ddweud hynny wrthi. Ond nid oedd troi arni. Yn waeth na hynny, fe aethai'n grafog a'i gyhuddo o fod yn hunanol, ei bod hi'n ddyletswydd arno ildio'r awenau i Feurig. ei fab, na allai ddisgwyl i hwnnw fod yn gi bach iddo ddim hwy ac yntau bellach yn ddyn yn ei oed a'i amser. Wrth sôn am ddyletswydd, yr oedd hi wedi taro at y gwaed. Nid un i osgoi ei ddyletswydd oedd ef a gwyddai ei wraig hynny o'r gorau. Er hynny, yn groes i'r graen yr oedd o wedi ildio iddi. Fel pe na bai hynny'n ddigon, yr oedd hi wedi mynnu mai i lan y môr y dylent ymfudo, y byddai'n haws iddynt ddechrau o'r newydd mewn amgylchedd gwahanol ac anghynefin. Siarad twp oedd hynny yn ei farn ef a siawns na byddai wedi llwyddo i ffrwyno Kate Elen rhag cicio'r tresi n ormodol oni bai i Nesta, gwraig Meurig. gymryd yn ei phen-a hynny'n groes i'w harfer-i fod yn garreg ateb i bob gair a lithrai dros ei gwefusau. Wedyn, nid oedd dal arni, yr oedd hi wedi codi ei charnau a phrynu rhyw dwlc o dy unllawr o fewn ychydig lathenni i'r môr a dyna lle'r oeddynt bellach fel adar mewn caets. Yn ei fvw, ni allai gartrefu ynddo. Yn un peth, yr oedd yn gas ganddo gysgu ar yr un llawr ag y câi ei fwyd. rywsut ni allai lai na theimlo bod byw felly'n anfoesol. Nid oedd hi fawr gwell arno o'r tu allan i'r ty. Fel dafad yn gaeafu, dyheai am gael troi'n ei ôl tua'r llethrau. Sut oedd disgwyl iddo ymgynefino mewn lIe nad oedd olwg am fuwch na dafad iddo roi ei linyn mesur arni yn unman? Yr unig anifail a welai oedd ambell gi na haeddai ei sylw. Ni haeddent yr enw chwaith, hen gwn yn sypiau o faldod yn tindroi tu ôl i ferched neu'n dalpiau o ddiogi'n dyhyfod o gylch y drysau. Rhag ymdebygu i'r naill fath na'r llall trwy duthian wrth sodlau ei wraig o amgylch y siopau neu glertian yn ddiamcan yn y ty o fore gwyn tan nos, âi William Roberts ar ei godiad tua'r harbwr. Nid bod ganddo ddim i'w ddweud wrth gychod, dim o gwbl, ond 'roedd yr harbwr yn fwy o fyd dyn nag unman arall yn y tipyn tref yma. Dynion a âi yno am stelc fel yn y mart, a'r tywydd, fel yno, yn fwy aml na pheidio. oedd testun y sgwrs. O'r herwydd, ar y dechrau, yr oedd wedi tybio y gallai gael ei big i mewn ond nid yr un rhai oedd ei argoelion ef â rhai'r pysgotwyr. Ac yr oedd arogl y