Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhieni T. H. Parry-Williams TRO prynhawn yw hi o Faladeulyn i Ryd-ddu. Gadael pentre Nantlle heibio i ysgol y pentre, croesi Pont y Gelynen a'i rhaeadr dan y coed deri, heibio i'r Gelli Ffrydiau a'r hen Dyrpeg lle'r awn i chwarae gynt gyda Lewis a'i chwaer, ac yna ar hyd milltir wastad gyda Thalmignedd i'r dde a llethrau grugog Mynyddfawr (Mynydd y Grug i ni'n lleol) ar y chwith. Yna rhaid dringo Allt Drws-y-Coed, heibio i adfeilion Clogwyn Brwnt, hen gartre'r brodyr Francis cerddgar. Mae'n werth troi'n ôl 0 ben yr allt i weld Dyffryn Nantlle a'r llyn, cip ar yr hen chwareli y tu ôl iddo, ac yna yn y pellter y môr tua Phont Llyfni. Yr ydych yn awrwrth ochr un o'r Tri Llyn y sonia'r bardd amdanynt yn un o'i ysgrifau. Llyn y Dywarchen, a'r dywarchen, neu'r ynys ynddo yn borffor dan rug, ac er ein bod wyth milltir o'r môr mae'n hafan i wylanod bob amser. Cofiaf y wefr gyntaf wrth ddarllen yn blentyn y stori am y wraig ddewr a'i bechgyn yn llyfr E. Morgan Humphreys, Dirgelwch yr Anialwch, a'i dychmygu'n plymio o graig yr ynys i'r llyn rhag ei dal gan y milwyr. Mae fferm Drws y Coed Uchaf ar y dde inni, a'i stori hudolus am y llanc a briododd un o'r Tylwyth Teg ac oddi tanom Lyn y Gadair. Mae i'w weld yn well oddi yma nag o'r ffordd fawr rhwng Beddgelert a Chaernarfon. Ni wêl y teithiwr talog monno bron." Ac yna awn heibio i'r fawnog a'r ddwy chwarel wedi cau," ac y mae pentre Rhyd-ddu a Thy'r Ysgol o'n blaen. Tad Syr Thomas oedd prifathro'r ysgol unwaith, ac yn Nhy'r Ysgol y maged y teulu. Mae'r ysgol a'r ty bellach yn ganolfan awyr agored i'r ysgol uwchradd ym Mhenygroes a rhai o greiriau'r bardd ynddi. Ond gresyn iddynt dynnu'r cyrn oddi ar y to, oblegid ni fedrwn bellach adrodd i ni ein hunain a'n plant wrth fynd heibio: Mae'r cyrn yn mygu er pob gwynt croes." Sut rai oedd rhieni'r bardd, yr oedd ef gynt gymaint o ofn iddynt-" Synhwyro rywsut fod y drws ynghlo ? Ychydig, bellach, sydd yn cofio tad a mam yr ysgolhaig o Ryd-ddu. 'Roedd stori ar led pan oeddwn i'n blentyn yn Nantlle fod ei fam yn wraig garedig iawn wrth bob tlotyn a thrempyn, a bod marc cudd ganddynt ger Ty'r Ysgol i ddweud un wrth y llall y byddai croeso a thamaid o fwyd yno. Fe gawn awgrym o hyn yn un o sonedau'r bardd, Cydbwysedd Gwn na wrthododd mam gardod erioed I'r haid fegerllyd a fu'n crwydro'n hir, Yn wŷr a gwragedd o bob llun ac oed, O wyrcws ac i wyrcws yn y sir. Ac nid ryw sbarion sâl a roddai ei fam ychwaith- Oni chânt Bob amser ganddi'r mwydion gyda'r crwst. A chig a cheiniog?