Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ceirch o'r Maes fr Bwrdd BU ceirch yn fwyd delfrydol a thraddodiadol Gymreig dyn ac anifail ers cantoedd ac 'roedd yn hanfodol bwysig godi cnydau da a'u cynaeafu'n gras ar gyfer y gaeaf. 'Roedd yn gnwd hynod o bwrpasol i wlad hytrach yn wlyb, tir yn dueddol i fod yn sur ac yn isel mewn cynnyrch. Hefyd 'roedd arbenig- rwydd yn perthyn i'r gwahanol fathau ohono; 'roedd rhai ohonynt fel ceirch gaeaf yn alluog i wrthsefyll oerfel, eraill yn fwy diogel i'w hau yn y gwanwyn. Ceir hefyd wahanol fathau ar gyfer tir da, tir gweddol a thir uchel gwael. 'Roedd ceirch yn fwyd iach i ddyn, fel bara ceirch, uwd a llymru. Hwn oedd y grawn gorau i geffyl ac yn gnwd rhagorol i borthi gwartheg. Bu mwy o gyfnewidiadau yn y dull o gynaeafu ŷd yn y ganrif hon nag mewn unrhyw un o'i blaen. Atgofion melys yw sôn am yr hen ddull traddodiadol Gymreig o dorri yd gyda phladur a chadair arni 'slawer dydd cyn i'r peiriannau gymryd ei lIe. Y Bladur â'r Gadair. Y dull cyntefig o gynaeafu oedd drwy dynnu'r yd aeddfed o'r gwraidd â'r dwylo; yna daeth y cryman syml nad oedd eisiau llawer o grefft i'w defnyddio heblaw ei hogi yn achlysurol â charreg. Ond yn unol â'r hen drefn, pan fyddai'r ceirch yn dechrau melynu i liw'r golomen ym mhen draw Cae Garw tua diwedd Awst, arferai'r hen bladurwyr gymryd p'nawn i osod eu pladuriau, a phob un ohonynt â'i bladur ei hun, wrth gwrs. Rhaid oedd dechrau ar y cynhaeaf cyn bod yr yd i gyd yn grin aeddfed. Ar ôl tynnu'r bladur i lawr oddi ar wimbren y storws lIe bu'n gorffwys ers diwedd y cynhaeaf cynt rhaid oedd datod y llafn oddi wrth y goes drwy lacio'r gaing a oedd yn eu cadw ynghyd, er mwyn ei llyfannu ar y maen' gwlyb troellog i godi min neu awch arni. Nid pawb a fedrai ddal y llafn ar y maen er mwyn ei hogi ond medrai unrhyw un ei droi. Nid pob pladur a gadwai'r min chwaith ar ôl ei hogi a'i ddefnyddio am fod gwahaniaeth rhwng dur a dur yn eu gwneuthuriad. Defnyddid coes â phladur fyrrach a chywirach i daro'r yd nag i dorri gwair. Wedi'r llyfannu rhaid oedd gosod y bladur wrth y goes gam, a gwaith crefftus gweithiwr profiadol oedd hynny. Fe welai'r llygadog wrth basio'r man a'r lIe, ddefnydd coes pladur mewn cangen gwernen neu helygen gam, ac ar ôl ei thorri a'i chadw i sychu, yna ar brynhawn gwlyb fe âi ati i'w naddu a'i thrwsio yn barod i waith. 'Roedd y ddau fath o bren uchod yn ysgafnach na phren onnen neu dderwen ac yn llai atyniadol i bryfyn pren. Gwaith anodd yw disgrifio'r proses o osod' pladur, ond drwy lwc a bendith fe ysgrifennodd y diweddar Ddr. T. J. Jenkin, cyn-reolwr y Fridfa, ysgrif werthfawr sy'n disgrifio yn lled fanwl y dasg o osod pladur yn Gwyddor Gwlad [Cylchgrawn Amaethyddol Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru, Cyfrol 4, 1961, t. 29-39 yn dwyn y teitl Y Parc Llafur (Y Cae Ŷd)." Yn yr ysgrif honno y mae geirfa ragorol o'r termau a oedd ar flaen tafod pob llafurwr