Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau JEAN-PAUL SARTRE, Tynged Anochel. Cyfieithiad Berwyn Prys Jones o Les jeux sont faiis. Golygwyd, gyda rhagymadrodd ac astudiaeth, gan Bmce Griffiths. Adwaenir Jean-Paul Sartre ledled Ewrop fel apostol dirfodaeth, ac y mae'n debyg y bydd y darllenydd yn fwy cyfarwydd â'i waith athronyddol nag â'i waith llenyddol­yn nofelau, y dramâu ac yn feirniadaeth. Gwir y dywed Dr. Griffiths yn ei astudiaeth o'r senario, Tynged Anochel, mai prin iawn yw'r sylw a gafodd Tynged Anochel gan y beirniaid di-rif a fu'n dadansoddi gwaith Sartre.' Y rheswm am hyn, meddai, yw symlder ac eglurder y senario, o'i gymharu â'r gweithiau hynny sy'n llawn o ymresymu athronyddol a dyrys. Ac eto, ceir yn y senario hwn aml enghraifft o brif nodweddion Sartre y dirfodwr. Gwelir mynegi un o'r problemau gwaelodol yn astudiaeth Dr. Griffiths Y tu hwnt i'r anobaith a ddaw wrth sylweddoli nad oes yna Dduw, fe wêl dyn ei fod yn rhydd, yn rhydd i greu ei hanfod ei hun.. Anffodus, efallai, yw'r dewis o'r gair hanfod yma, gan ei fod yn cyfieithu i'r dim y gair Ffrangeg essence,' y mae Sartre yn ei wrthgyferbynnu ag 'xistence í'bodolaeth *). Y mae'r senario hwn yn frith o gyfeiriadau at y posibilrwydd hwn-creu Natur newydd wrth fwynhau rhyddid oddi wrth lyffetheiriau bodolaeth meidrol. Mewn astudiaeth bwysig o fywyd a gwaith y bardd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Baudelaire gwaith nas crybwyllir yn y rhestr o weithiau Sartre a ymddengys ar ddechrau'r gyfrol hon, er iddo gael ei gyhoeddi ym 1947, yr un flwyddyn â Tynged Anochel y mae Sartre yn collfarnu Baudelaire am iddo wrthod <<cydio yn ei wir Natur' ac am iddo aros yn ei orffennol.' Ym 1952, cyhoeddodd Sartre astudiaeth debyg o fywyd a gwaith y nofelydd a dramodydd cyfoes, Jean Genet. ac ynddi y mae Sartre yn canmol Genet am iddo greu Natur newydd iddo'i hun, neu'n hytrach dderbyn hyd yr eithaf y natur a osodwvd arno, gan y gymdeithas y mae ef yn rhan ohoni. Daw Tynged Anochel rhwng y ddwy astudiaeth hvn. a buddiol yw ymdrin ag ef yng ngolau'r syniadau y mae Sartre yn eu datblygu wrth iddo astudio bywyd a gwaith eraill. Yn wir. v mae tair astudiaeth fel netai'n rhannu gyrfa Sartre: y ddwy a grybwyllir uchod, ac astudiaeth o fywyd a gwaith Flaubert, sydd yn anorffenedig hyd heddiw. 'Ewch ble mynnoch chi. Mae'r meirw'n rhydd.' Dyma'r hyn a ddywed yr hen wraig wrth Pierre, ac wrth Efa yn ei thro, cyn iddi eu gyrru allan i fyw ym myd y meirw. Nid newydd, wrth gwrs, yw'r syniad o roi ail gyfle ar fywyd i'r meirw. Defnyddiwyd yr un svniad gan Sartre vntau vn ei ddrama Huis clos (Dirgeì Lys) ym 1944. Ond, os yw'r ddrama honno yn fwy cywrain ei chrefftwaith na'r senario hwn. y mae i'r gwaith hwn bosibiliadau ehangach a mwy diddorol nag i'r ddrama. Yno, cafwyd trem ar fywyd tri chymeriad yn uffern, yn ail-fyw methiant eu bywydau fel meidrolion. Yma, caniateir i Pierre ac Efa ddychwelyd i dir y byw am eu bod 'wedi eu tynghedu i'w gilydd,' a hwythau heb gyfarfod â'i gilydd yn ystod eu bywyd. Un elfen yn unig o'r stori yw datblygiad y gyfathrach rhyngddynt. Gwelwn y meirw'n ceisio eu difyrru eu hunain a dygymod â'i gilydd gyda'r un arabedd eironig a miniog a gafwyd yn Huis clos, a gwelwn hefyd y meirw'n ceisio dylanwadu ar y byw, ac yn methu a dyma'r anocheledd. Y mae'r union syniad 0 'ryddid y meirw' yn caniatáu i Sartre ymdrin â'r syniadau hynny am ryddid a welsid yn ei draethodau athronyddol mewn modd dramatig. Gwneir hynny ar wahanol lefelau yn y senario. Yn gyntaf, ac yn bwysicaf oll, un elfen yn unig o'u natur fel dynion byw a erys i'r meirw, ac y maent yn methu, yn anad dim, am nad ydynt yn amgyffred hyn. Yn y gyfrol gyntaf o'i nofel ar yr ail ryfel byd, L'âge de raison (Cyfnod rheswm), y mae Sartre yn disgrifio arwyddocâd marw: Yr oedd hi wedi marw. Yr oedd ei hvmwvbod wedi ei chwalu. Ond nid ei bywyd yr oedd hwnnw'n hofran uwchben y ddaear, yn fwy anninistradwy na mwyn; ac