Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

W. R. P. GEORGE, The Making of Lloyd George (Faber & Faber, 1976). Pris £ 5.50. Ychydig amser yn ôl cynigiodd Dr. K. O. Morgan, yn un o'r disgleiriaf o'i amryw gyfraniadau at yr astudiaeth o yrfa wleidyddol Lloyd George (' Lloyd George and the historians,' Trafodion Cymmrodorion, 1972 mai un o'r pethau mwyaf hanfodol i'r hanesydd ei wneud oedd edrych unwaith eto ar ei gefndir Cymreig a dylanwadau hwnnw ar ei fywyd a'i waith. Byddai'r math yma o astudiaeth, meddai ef, yn dangos nid ei fod heb wreiddiau yn unlle fel y cytuna'r rhan fwyaf o haneswyr Seisnig, ond ei fod wedi'i wreiddio yn nemocratiaeth radicalaidd Cymru wledig a bod y fagwraeth a gafodd yn ei blentyndod wedi darparu themâu parhaol yn ei fywyd byth wedyn. Fe aeth argraffiad Dr. Morgan o ohebiaeth y teulu, a ddaethai i feddiant y Llyfrgell Genedlaethol ychydig cyn hynny [Lloyd George: Family Letters 1885-1936, golygwyd gan Kenneth O. Morgan (Gwasg Prifysgol Cymru a Gwasg Rhydychen, 1973)] gryn dipyn o'r ffordd tuag at wneud hynny'n bosibl er na allai, yn herwydd prinder cymharol y llythyrau a'r dogfennau eraill yn ymwneud â'r cyfnod.hyd at pan aeth Lloyd George i'r Senedd, wneud dim mwy na chodi chwant am weld y pentwr o bapurau teuluol sydd eto ym meddiant amryw unigolion. Yn fuan wedyn gwnaeth y diweddar Arglwydd Maelor yi un math o sylw, gan ddadlau na roddwyd yn y gorffennol, ac na roddir o hyd, ddigon o sylw i'r cefndir crefyddol (Barn, Rhif 136, Chwefror 1974). Efallai na bydd haneswyr yn cytuno â'r cyfan o ddadl yr Arglwydd Maelor ond yn sicr gellir derbyn ei osodiad cyffredinol, sef bod y fagwraeth a gafodd Lloyd George yn y capel Campelaidd (Campellite), Ue'r oedd ei ewythr yn un o'r ddau weinidog mygedol, yn berthnasol ac yn deilwng o sylw. Dangosodd traethawd yr Arglwydd Maelor a thraethawd M.A., a gyflwynwyd tua'r un adeg (" Lloyd George's pre-Parliamentary political career," gan R. Emyr Price, M.A., Bangor, Mehefin 1974) yn berffaith glir pa mor anodd, os nad amhosibl, y gallai gorchwyl o'r math yma fod heb y ffynonellau hanfodol. Er enghraifft, i ddehongli ei bwynt mai Eglwys les oedd yr enwad Bedyddiol y perthynai William George iddo ac mai dyma efallai a ysbrydolodd y wladwriaeth les,' bu rhaid i'r Arglwydd Maelor ddyfynnu o ddogfennau capel Ramoth, nid Cricieth, tra bu rhaid i Mr. Price ddibynnu bron yn gyfan gwbl am hanes y teulu a'i fagwraeth gynnar ar y cyfrolau anhepgorol hynny gan William George, sef Richard Hughes Cricieth (1934), Atgof a Myfyr (1948) a My Brother and I (1958). Efallai y daw chwilio dyfal i gasgliadau eraill o bapurau, mewn llyfrau, erthyglau mewn cylchgronau a dyddiaduron â thameidiau pellach o wybodaeth i'r amlwg, ond cyn belled ag y mae'r bywyd cynnar yn bod nid oedd y drysau i mewn i'r archifau ond yn gil agored a'u cyfoeth i'w weld ond yn anaml, a hynny drwy lygaid eu ceidwad. Mewn gwirionedd, yr hyn y mae'r llyfr sydd dan sylw yn ei wneud yw agor y drws yn lletach o lawer, a dyma sy'n ei wneud yn llyfr mor wirioneddol ddiddorol a phwysig. Mewn effaith, sylwadaeth ac esboniad ydyw ar y papurau hynny ym meddiant yr awdur sy'n berthnasol wrth geisio deall y dyn, David Lloyd George. A barnu wrth y detholiadau niferus, y mae'r papurau hyn yn gasgliad hynod o werthfawr ac amrywiol ac yn cynnwys nid yn unig ddydd-lyfrau a phapurau eraill y Lloyd George ifanc ond yn bwysicach fyth, bapurau ei dad, ei ewythr Richard Lloyd a'i daid o du ei fam, Dafydd Llwyd. Defnydd- iwyd rhai o'r papurau hyn o'r blaen, yn arbennig gan Watkin Davies a du Parcq yn eu bywgraffiadau, ac yn fwyaf eglurhaol gan William George (brawd Lloyd George) yn y llyfrau a enwyd uchod. Ond ar wahân i'r llyfr rhagorol hwnnw Richard Lloyd, Cricieth ni chafwyd yn unman y fath ddetholiadau niferus ac amrywiol. Ni all neb, yn y fy marn i. wadu eu bod yn taflu goleuni disglair ar ddatblygiad y dyn ifanc. Bellach gallwn weld y llanc yn gliriach o lawer ar ei gefndir ei hun a sylweddoli, â dwyster ychwanegol, gymaint oedd dylanwad y teulu arno. Dyna'r gŵr rhyfedd a chymhleth hwnnw Richard Lloyd, er enghraifft. Ar rai agweddau y mae mor anodd ei ddirnad yntau â'i nai: fe wêl John Grigg yn ei fywgraffiad diweddar The Young Lloyd George (1973), yn hwn y gwleidydd siomedig, y beirniad craff a oedd yn byw allan ei ddiddordebau angerddol yn ddirprwyol megis trwy weithredoedd ei nai. Ond