Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Eto ansawdd personol y llyfr hwn a rydd iddo ei ddiddordeb parhaol ac a all, vn wir efallai, gyflwyno'r arwyddion hanfodol ynglyn â phersonoliaeth Lloyd George. Ceir persbectif newydd a ffres wrth fyfyrio, fel y gwnaeth yr awdur dros gyfnod maith. ar v berthynas rhwng y ddau frawd. Y mae William, y brawd ieuaf, yn bresennol drwy'r amser, ond yr oedd ymddiriedaeth yr hynaf yn yr ieuaf yn golygu llawer mwy na bara menyn a darpariaeth sail ariannol ddiogel ar gyfer yr esgyn i yrfa wleidyddol barhaus. Yr oedd y brawd ieuaf. clir ei welediad, ac ymarferol yn ei ofalaeth o'r swyddfa, hefyd yn feddyliwr teimladwy a barddonol; y brawd a etifeddodd sancteiddrwydd ac ymroddiad yr ewythr. Ni cheir ond awgrym yn y llyfr hwn ynglvn â pha mor ddwfn yr oedd ei ddylanwad ar Lloyd George trwy iddo gynnal ei wreiddiau ac efallai yn y man y gallwn fesur maint y dylanwad hwn yn yr un modd ag y gallwn bellach werthfawrogi cryfder enfawr y cysylltiad. Fe erys Lloyd George yn enigma i raddau am byth: y mae gwvr o athrylith felly yn ddieithriad ond os bydd haneswyr yn derbyn yn sensitif y dystiolaeth newydd yn llyfr Mr. George ac yn troi eu sylw â'r manylder mwyaf, fel yr awgryma'r awdur y dylent ei wneud, at y cymunedau y'bu'r plentyn a'r gŵr ifanc yn ymsymud yn eu plith, yna fe ddiflanna peth o'r dirgelwch ac fe ddaw Lloyd George i'r amlwg yn gredadwy ac yn argyhoeddiadol. Gorau oll, efallai. fe fvddwn yn y broses wedi dod i ddeall hanes ein pobl gymaint â hynny'n well. Aberystwyth. Ieuan GWYNEDD JONES. ALUN Llywelyn-Williams, Gwanwyn yn y Ddinas (Gwasg Gee, 1975). Yr arddull yw'r dyn, fe ddywedir. A chan mai â'r bersonoliaeth y mae a wnelo'r hunangofiant, mae'r arddull, meistrolaeth yr awdur ar ei gyfrwng, yn hanfodol bwysig ynddo. 'Wn i ddim mai gwir yw dweud mai'r mynegiant yw'r neges. ond vn sicr ar effeithiolrwydd y mynegiant y bydd llwyddiant y neges yn dibynnu, a 'fedrwch chi ddim gwahanu'r naill oddi wrth v llall. Ymgais i ail-fyw bywyd yw hunangofiant wedi'r cwbl, i ail-feddiannu bywyd. i ddadelfennu ac amgyffred yn llwyrach hanfodion a theithi'n bodolaeth. A chyfnod ein plentyndod a'n llencyndod yw'r cyfnod tyngedfennol penderfynadwy, y cyfnod y deuwn agosaf at y gyfrinach. Ar un ystyr, 'ryden-ni i gyd yn dechrau marw tua'r chwech ar hugain oed. Efallai'n wir mai dim ond am wanwyn bywyd. am ryfeddod y dyddiau cynnar yn ein hanes, y dyddiau creadigol, y gallwn greu llenyddiaeth. Ac mae'n beth rhyfedd ac arwyddocaol efallai fod 11u mawr o lenorion proffesedig wedi teimlo rywdro ar eu calon yr awydd i sgrifennu hunangofiant, i gyfansoddi apologia i'w bywydau, a bod llawer ohonyn-nhw wedi llwyddo i roi cynnig effeithiol iawn ami. er na bu allanolion eu gyrfa bob amser o fawr bwys. Yn hytrach, ystyried beth oedd ansawdd ei fywyd. pa fath ddvn sy'n dod i'r golwg trwy'r apologia, a oedd ganddo rywbeth o bwys i'w gyfrannu i'n hydeimledd. rhywbeth o bwys i'w ddweud drwy adrodd ei fywyd ei hun am gyflwr dyn yn gyffredinol. — Alun Llywelyn-Williams, Bywgraffiad fel Creadigaeth Lenyddol., yn Geraint Bowen (gol.). Ysgrifennu Creadigol (Llandysul, 1972). Fel y dengys y dyfyniadau uchod. yr oedd yr Athro Alun Llywelyn-Williams yn gwybod mor anoddyw'r dasg y mae'r hunagofiannydd llenyddol yn ei gosod iddo'i hun. a rhaid ei fod wedi meddwl cryn dipyn cyn mentro arni. ond gallwn fod yn dra diolchgar iddo am wneud hynny, oblegid y mae Gwanwyn yn y Ddinas yn gyfraniad sylweddol i faes nad ydyw ein llên yn orgyfoethog ynddo ac y mae'n ychwanegiad gwerthfawr i'n llenyddiaeth greadigol. Yr ydym yn disgwyl ysgrifennu coeth a chelfydd gan yr Athro: fe'i cawsom yn gyson ganddo ar hyd y blynyddoedd yn ei ryddiaith a'i farddoniaeth. Ond y mae ei destun yn y darn hwn o hunangofiant yn fwy personol na'r testunau y bu'n eu trafod vn ei ryddiaith hyd yn hyn. ac fel y dangosodd ef ei hun. os y dyn yw'r arddull ym mhob