Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

deilyngu'r sylw a roddir iddo yn yr hunangofiant. Ni ellir dweud mwy yma na bod yr hyn a ddywed yr awdur amdano'i hun a'i getndir yn gymorth sylweddol i ni ddeall ei waith llenyddol, ac yn enwedig ei farddoniaeth, oblegid y mae honno'n unigryw yn ei chyfraniad i'n llên ddiweddar ac yn dra arwyddocaol, a hynny i raddau am fod y bardd mor wahanol ei gefndir i weddill ein beirdd. Ond nid bardd yn unig mohono. Pe na bai wedi ei ennill eisoes, mae'r gyfrol hon yn sicrhau lle anrhydeddus iddo ymhlith meistri prôs ein cenhedlaeth. J. E. CAERWYN Williams. Bobi Jones, Gwlad Llun (Christopher Davies, Abertawe, 1976). Pris £ 2.75. Mae'n demtasiwn rhagymadroddi cyn ceisio adolygu'r gyfrol hon drwy sôn am amryfal ac aml weithgareddau'r awdur, ac efallai y dylid ildio i'r demtasiwn, oblegid yn sicr nid yw Bobi Jones yn un sy'n adrannu ei ddiddordebau'n dwt ac yn daclus gan eu cadw ar wahân. Nid yw, e.e., yn llenydda â rhan o'i feddwl ac yn ysgolheica â'r rhan arall. Efallai nad oes neb yn gwneud hynny, ond y mae rhai fel petaent yn cymryd arnynt wneuthur hynny, ac y mae beirdd yn gweud hynny'n aml, yn union fel petaent cyn mynd ati i farddoni yn gofalu gwisgo eu dillad parch a newid ei sgidiau am sgidiau ddydd Sul. Y canlyniad yw fod y darllenydd wrth ddarllen ambell gyfrol o farddoniaeth yn teimlo ei fod yn cael ei wahodd i'r parlwr ac yn cael ei gadw rhag taro'i big i mewn i'r gegin. Nid bardd felly yw Bobi Jones. Mae ei holl bersonoliaeth y tu ôl i'w farddoniaeth a'i holl argyhoeddiadau a'i ddiddordebau'n cael eu hadlewyrchu ynddi. Nid peth anodd fyddai ceisio olrhain y dylanwadau sydd y tu ôl i gerddi'r gyfrol hon, nid olrhain dylan- wadau personau eraill neu eu gwaith, ond olrhain dylanwadau argyhoeddiadau a diddordebau personol yr awdur, e.e., ei ddiddordebau fel ieithydd. Mae geiriau i'r ieithydd gan Bobi Jones o ddiddordeb di-ben-draw. Gwyr am y geiriau sydd yn unsain â'i gilydd ac eto'n golygu pethau gwahanol ac ymddiddora yn effaith y cyfryw. E.e., dyma deitl y gyfrol hon a theitl un o'i cherddi Gwlad Llun.' Mae'n unsain â Gwlad Llyn' ac i lawer iawn Gwlad Llŷn yw calon y Gymru Gymraeg-ac y mae'r awdur yn ymwybodol o hynny ond nid yr un Gymru yw Cymru pawb-ac y mae gan bob un ohonom ei lun arbennig o Gymru neu ei wahanol luniau ohoni-ac yn sicr y mae gan Bobi Jones ei amrywiaeth ei hun o luniau. Dyna, ar y llaw arall, ei ddiddordeb fel hanesydd llên. Gŵyr fod mynd wedi bod ar ganu llatai a bod llawer o nerth y canu hwnnw'n dibynnu ar rym y dyfalu. Ac wele ef yn rhoi i ni Anfon Taten yn Llatai at Ofodwyr America a Rwsia,' Anfon Cyngor Eglwysi'r Byd yn Llatai i Uffern,' Anfon Malwoden yn Llatai at Wr Ifanc sy'n credu mai Mater Gwleidyddol yw'r laith.' Adlewyrchir diddordebau'r hanesydd llên mewn cerddi eraill hefyd, megis Aneirin,' Cynnydd Peredur,' etc. Nid yw diddordebau ac argyhoeddiadau crefyddol Bobi Jones heb fynegiant chwaith yn y gyfrol hon. Enghraifft amlwg iawn ydyw 'Soned ar Emaus.' Ond unwaith y mae'r darllenydd yn mynd i'r afael â darllen y cerddi hyn yn iawn— ac nid mater o sgubo dros y geiriau a chodi'r lleiafswm o synnwyr ydyw darllen yn y cyswllt hwn, ond gadael i'r meddwl gael ei feddiannu gan y meddwl sydd y tu ôl i'r geiriau ac ynddynt-y mae'n anghofio am y dylanwadau hyn ac yn ymglywed â phersonoliaeth yr awdur, yn ymglywed â'r egni ysbrydol sydd hefyd yn egni creadigol. Nid oes ofod yma i ymdrin â'r cerddi fesul un. Digon fydd cyfeirio at gerdd gyntaf y gyfrol, cerdd serch er bod amryw o'r cerddi'n gerddi serch yn ystyr ehangaf y gair hwnnw, yn ystyr yr eros' sydd yn ffurfio sylfaen ein byw. Cerdd gyntaf y gyfrol ydyw Pan rodiwn ac y mae'n un o gerddi serch godidocaf y ganrif, i'm tyb i. Ar y traeth y mae'r bardd, ar draeth y Morfa Mawr, ac y mae'r môr gyda'i lanw a'i drai, gyda'i weithgareddau yn sugno, yn tynnu, yn swnio, yn llenwi, yn treio, wedi rhoi delweddau. neu, os mynnir, luniau i bortreadu serch angerddol y bardd.