Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O dan y cwbl mae'r syniad fod y môr gyda ni ac eto heb fod gyda ni, ei fod yn ein gafael ac eto heb fod yn ein gafael. Sylwer ar y geiriau mewn italig yn y gerdd. Caraf di fel pe bawn wedi dy golli di. Pan rodiwn ar hyd y Morfa Mawr am dro Fe dyr dy gwmnïaeth di'n donnau atgot i mi A golchi drwy fy hiraethau a'u sugno hwy'n ôl i'r gro. Ac yma'n bresennol mae breuder dy lais yn fy nhynnu i O'r tu hwnt i'r swnt yma, tel pe bai rhyw drein Yn y gorweì acw wedi d'osod lle na allat dy ddilyn di A minnau am gael cipolwg bach arnat un tro drachefn. Rwyf heddiw'n unig oherwydd fy mod i am adfer Y tonnau-íunudau sy eisoes yn ein gafael o hyd. 'R wyf am dy gwmni di—O! paid â bradu'r amser- Ar y traeth hwn lle ciiia'n heneidiau ar drai rhag y byd. Ond arnat ni feiddiaf i edrych. Y tro olaf yw pob heddiw. Ar dy lais y rhuthrai fel pe bai o hyd ar gael A'i anwesu yn t'ogof fy hun. Cymer yr hyn ydyw Canys ni allaf addo yr adleisi o'm mewn yn ôl yn ddi-ffael. Er dy fod di o'm blaen i nawr,­na phaid ennyd â'th lifo 'R w>t acw yn eco, yn eco, iy eigion, eco yn iy nghlyw. Caeai o'm mewn yr hyn a gaewyd rhagof, a cheisio Yn oier ddatroi dy drcio, iy mwgan, fy myw. Er bod rhywun yn ceisio tynnu sylw at ambell air drwy ei roi mewn ilythrennau italig, y mae pob gair yn bwysig ac nid â'r llygad y mae darllen y gerdd hon, ond â'r llygad ac â'r glust, ie, ac â llygad a chlust sy'n cofio'r môr ar y traeth ar ryw fore neu'i gilydd, ie, a chofio'r môr a'r traeth sy y naill yn gorlifo'r llall a'r llall yn gwrthsefyll y naill- drwy gydol ein llenyddiaeth ac yn arbennig ein hemynau. Fel diwinydd y mae Bobi Jones yn Galfin o'r Calfmiaid. Nid wyf yn tybio y byddai ef a Dante'n deall ei gilydd ar lefel ddiwinyddol-ond ar lefel serch, y naill at Beti ar llall at Beatrice-y maent ar yr un donfedd. Fel y dywedais, mae llawer o'r cerddi yn gerddi serch yn ystyr ehangaf y gair, ond mae yma gerddi neu ran o gerddi sydd yn ddigofaint-a chrechwen digofaint i'w chlywed drwyddynt. Ac onid yw'r darllenydd yn gallu sylweddoli barddoniaeth mewn gwawd yn ogystal ag mewn mawl, mewn crechwen yn ogystal ag mewn gwên, ni ddaw o gwbl i gyrraedd gwybod cyfoeth a golud y gyfrol hon. Mae lle, yn sicr, ir farddoniaeth syn gyforiog o ddelweddau a gaiff ddrych ym mhob meddwl ac o deimladau sy'n cae atsain ym mhob bron, ond nid barddoniaeth felly sydd yma; yn hytrach, barddoniaeth sy n fforio meysydd o ddelweddau newydd ac yn agor byd o deimladau newydd eni. J. E. CAERWYN WILLIAMS. GWILYM R. TILSLEY, Crefydd y Beirdd (Darlith D. J. James, I977, Tŷ John Penry, Abertawe. 1977). Pris 4oc. Thema'r ddarlith hon yw agwedd beirdd ein canrif at grefydd, a chofio ymadawiad y rhelyw o'r werin Gymraeg oddi wrth grefydd y tadau mewn llan a chapel, a'r hen arferion traddodiadol oedd ynglyn â hi. M cyfynga darlithydd ei hun i bedwar bardd dylanwadol o'i ddewisiad ei hun. sef T. Gwynn Jones, T. H. Parry-Williams, Gwenallt a Waldo Williams. Fe'n rhybuddir gan Gwynn Jones yn ei ragair i Caniadau (I934) mai ofer chwilio ei gerddi am ddysgeidiaeth neu athroniaeth, gan mai cais sydd ynddynt i fynegi profiadau, digon croes i'w gilydd yn aml. heb un cais i'w cysoni wrth ofynion un broffes. Eto deil Gwilym R. Tilsley fod pob bardd yn ddysgawdwr yn gymaint â'i fod yn rhwym