Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddatgelu ei syniadau (er yn anfwriadol yn aml) am faterion mawr crefydd a bywyd. Felly am y pedwar bardd y traethir arnynt yn y ddarlith hon. Ceir gan Gwynn Jones feirniadaeth chwyrn ar ei gymdeithas, ond wrth safonau crefydd ei fagwraeth y barna. Fe'i ceir yn anwadalu rhwng ffydd ac amheuaeth yn ei gerddi ond ni allasai ganu ei gerddi mwyaf (megis Madog ') oni bai am y gwerthoedd Cristnogol a ddaeth iddo drwy'r fagwraeth mewn cartref a chapel. Y gwerthoedd hyn oedd y rhodd a gafodd drwy'r grefydd draddodiadol y gwrthryfelodd yn ei herbyn (am resymau cadarn) yn y man. Yr oedd crefydd yn amlwg iawn ym magwraeth Parry-Williams yntau, yn y cartref a'r capel, ac er na ddaeth y bardd (yn rhannol), efallai, oherwydd swiidod), yn fardd crefyddol fel Gwenallt, eto yr oedd ei wreiddiau oll yn y traddodiad Cristnogol. Wedi ei foldio gan Gristnogaeth oedd dedfryd Saunders Lewis arno. Eglur y gwelir yn ei gerddi dynfa ddwys rhwng Rhyd-ddu a'r Prifysgolion, rhwng y fagwraeth Feiblaidd- ddefosiynol a'r ddysg wyddonol-anghrediniol a gafodd wedi mynd allan i'r byd. Mae'n wahanol gyda Gwenallt. Er cael magwraeth yn yr un pethau â Gwynn Jones a Parry-Williams, cefnodd Gwenallt ar ffydd ei dadau, dan ddylanwadau Marcsiaeth wrthryfelgar a gwrthgrefyddol y Deheudir diwydiannol, ac mewn protest yn erbyn crefyddwyr a bleidiai ryfel. Ond nid oedd anffyddiaeth yn ei fodloni. Cafodd dröedig- aeth. Troes at ddiwinyddiaeth ac athroniaeth, a myfyriodd yn ddwys ar y byd a'i bechod, ac ar Dduw a'r Efengyl. Erbyn 1939 yn Ysgubau'r Awen gwelwn Gwenallt yn Gristion sy'n arddel y Ffydd, a'i hamddiffyn yn groyw. Bellach, nid elfen yn ei ganu oedd crefydd, ond ei bennaf ysbrydiaeth fel bardd. Try'r darlithydd wedyn at Waldo Williams, bardd gwahanol eto. Lle mae Gwenallt yn bropagandydd Cristnogol heriol, llifo a wna Efengyl Waldo o'i bersonoliaeth ddwys, mewn cerddi tosturiol, llawn cydymdeimlad a sicrwydd ac adnabyddiaeth o Dduw a dyn, a gobaith gloyw, gwerthoedd Cristnogol a fynegir yn dawel ac yn hyderus. Gwynn Jones, o'r pedwar bardd dewisedig, a gefnodd lwyraf ar grefydd draddodiadol ei fagwraeth. Nid aeth Parry-Williams cyn belled, yn wir mae'n amlwg fod ganddo le annwyl a chynnes i grefydd Rhyd-ddu gynt. Ymadawodd Gwenallt yn llwyr â chrefydd ei dadau, ond ar ei bererindcd ysbrydol fe ddychwelodd, a dyfod yn apologydd eiddgar i'r Efengyl. Tarddu o'i bersonoliaeth fel dŵr o ffynnon a wna crefydd Waldo yn ei gerddi, yn hytrach na'i fod yn dadlau'n heriol drosti. Fe ddychwel y darlithydd yn niwedd ei ddarlith at y mater a gododd yn ei dechrau. Sut y cysonir vmadawiad mwyafrif gwerin Cymru'r ganrif hon oddi wrth grefydd â'r lle amlwg a rydd y beirdd iddi? A chofio fel y bu'r beirdd gynt yn arweinwyr ac arloes wyr, awgryma'r darlithydd y gall fod hyn yn argoeli y bydd y werin yn y man yn eu dilyn yn ôl at y ffydd. Dyna rediad y ddarlith. Mae'n hyfryd o glir i'w darllen, a hynny'n bennaf am fod y darlithydd mor dra hyddysg yn ei faes. Pwllheli. R. GWILYM HUGHES. R. Geraint GRUFFYDD, In that gentle Country. The beginnings of Puritan Nonconform- ity in Wales. (The Evangelical Library of Wales. No. 3: 1976). 45p. Yn Saesneg y traddodwyd y darlith ac y mae'r darlithydd yn arbenigwr ar y cyfnod hwn yn hanes a llên Cymru, a'i gyfraniad yma'n ernes o'r cynhaeaf toreithiog y gallwn edrych ymlaen at ei fedi ganddo yn y dyfodol. Ni ddylai ffurf ddi-ymhongar y llyfryn gamarwain neb ynglŷn â'i werth-mae'n dra phwysig fel cyfraniad hanesyddol. Y mae dyn yn cael ei demtio i araHeirio'r adnod adnabyddus yn Efengyl Luc a'r hen garol Nadolig boblogaidd, a dweud 'Roedd yn y wlad honno/Biwritaniaid yn gwylio/ Eu heneidiau rhag eu llarpio'n un lle!