Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr ail arloeswr oedd Oliver Thomas, Carwr y Cymru "-pregethwr Presbyteraidd ac awdur. Ysgrifennodd gatecism dan yr enw "Sail Crefydd Gristnogol," ac yr oedd vntau'n fardd. Cyd-awdur ag ef oedd Evan Roberts, a anwyd yn Sir Ddinbych. Fei rhwng disgyblion Ioan Fedyddiwr a Iesu Grist, yr oedd perthynas agos rhwng yr arweinwyr hyn a disgyblion Wroth. Casgliad y Dr. Geraint Gruffydd yw fod yng Nghymru yn 1630 gnewyllyn o Biwritan- iaid Cymreig a heuodd hadau a oedd i ddwyn ffrwyth da yn ddiweddarach. Y mae darllen am y mudiad cynnar hwn yn gwneud inni sylweddoli fod nifer o wersi y gallem ninnau eu dysgu heddiw. Gwersi ffydd a phrofiad, defosiwn, dyfalbarhad a dewrder, ac yn fwy na dim, gwers goddefgarwch. Gall unrhyw fudiad Cristionogol gymryd y rhain o ddifrif ac osgoi peryglon oesol. Wedi'r cwbl, nid yn y gorffennol yr ydym yn byw (pa mor bwysig a diddorol a rhamantaidd yr hanes). Nid yn 1577 na 1677, ond yn 1977. Os oedd cyfeillion Llan- faches yn medru byw'n weddol gytûn, paham na fedr yr Eglwys Gristionogol yng Nghymru wneud hynny heddiw? Oni ellir cofleidio'r ddwy athrawiaeth fedydd, neu o leiaf gydnabod y ddwy? Ac onid yw Presbyteriaeth, neu ddatblygiad ohoni, yn cynnig llwybr canol fel delfryd o lywodraeth eglwysig rhwng esgobaeth ac annibyniaeth eglwys leol? Yn sicr, y mae goddefgarwch yn rhinwedd Gristionogol o hyd. Caergybi. LLEWELYN JONES. Dewi Eirug Davies, Hoff Ddysgedig Nyth (Gwasg John Penry), tt. 231. Pris: .e2.95. Cyfrannodd yr Academïau Ymneilltuol yn sylweddol at lwyddiant addysg yng Nghymru a Lloegr yn ystod y ddeunawfed ganrif, a barn gyffredinol yr haneswyr perth- nasol yw fod yr addysg a gyflwynwyd gan yr academïau ar y blaen i addysg Rhydychen a Chaergrawnt. Mae'n werth dyfynnu'r frawddeg hon o erthygl gan M. D. Stephens a G. W. Roderick ar y testun Addysg a'r Academïau Ymneilltuol yn rhifyn Ionawr, r977, o'r cylchgrawn History To-day In an age when the Oxbridge reputation was that of amateur and indolent scholarship, the Academies brought a professionalism to higher education that was only challenged in Britain by the Scottish Universities with which there are some notable similarities of outlook." Tra tystiodd dynion mor alluog ag Edward Gibbon ac Adam Smith i ddiflasdod addysg Rhydychen yn y ddeunawfed ganrif yr oedd gwybodaeth eang ac ymdrechion deinamig athrawon y prif academïau, megis Joseph Priestley yn Warrington a Philip Doddridge yn Northampton, yn gosod bri ar addysg yr Academiau. Yr oedd y Coleg Presbyteraidd a sefydlwyd yng Nghaerfyrddin yn 1703 yn un 0 Academiau Ymneilltuol pwysicaf Cymru yn ystod y deunawfed ganrif, ac fe barhaodd mewn bodolaeth hyd 1963. Adroddwyd hanes y sefydliad unigryw hwn a gyflwynodd addysg i fyfyrwyr o Annibynwyr, Bedyddwyr, Presbyteriaid, Undodiaid ac i ambell Eglwyswr yn ystod dwy ganrif a thrigain mlynedd ei fodolaeth gyda thrylwyredd goleu- edig gan yr Athro Dewi Eirug Davies. Y peth cyntaf, a'r peth pwysicaf, i'w ddweud am Hoff Ddysgedig Nyth yw ei bod hi'n gyfrol y mae ei chynnwys hi'n gyfraniad ysgolheigaidd o'r radd flaenaf i hanes twf syn- iadaeth grefyddol a threfniadaeth Ymneilltuaeth Gymraeg yng Nghymru o ddechrau'r ddeunawfed ganrif ymlaen. Nid yn unig y ceir cipolwg gwerthfawr ar bersonoliaethau a chymwysterau addysgol bron i bob un o athrawon y Coleg o'i gychwyniad ymlaen ac ar gyfraniad nifer o'r myfyrwyr mwyaf addawol a disglair, ond ceir golwg hefyd ar y gwrthdaro diwinyddol a flinodd fywyd y Coleg o dro i dro. Cafwyd gwrthdaro rhwng uchel-Galfiniaeth a Chalfiniaeth gymhedrol i ddechrau, a rhwng Calfiniaeth gymhedrol ac Arminiaeth, a rhwng Trindodiaeth ac Ariaeth yn nes ymlaen. Yn sicr, un o ragor- iaethau lluosog y llyfr hwn yw'r modd hoyw y llwyddodd yr awdur i gyfosod ac egluro'r gwahaniaeth rhwng y naill a'r llall, a hynny mewn byr eiriau eglur sy'n goleuo'r sefyllfa