Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I.lithrodd rhai gwallau i'r llyfr ar dudalen 22 aeth Aberaeron yn Abercynon. A thcbyg iawn y dylid darllen ar d. 33 Un fantais fawr a gafodd ym Morgannwg oedd cyfle i glywed rhai o gewri'r pulpud (yn lIe rhai o genadwri'r pulpud.") Beth bynnag, dyma'n cyfle ni i gwmnia ag un a ddaeth ei hunan yn un o "gewri'r pulpud/' a gwrando eto adlais ei genadwri." Aberystwyth H. R. DAVIES. WILLIAM LL. GRIFFITH, laith Plant Llyn. (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1976) tud. 230. Pris £ 3. Maes newydd i'r Gymraeg yw'r un yr ymdrinnir ag ef yn y gyfrol sy'n dwyn y teitl uchod-mor newydd o bosib ·fel y gallai'r teitl fod yn dywyll i'r mwyafrif o ddarllen- wyr Cymraeg oni bai am yr is-deitl Astudiaeth Mewn Ieithyddiaeth Gymdeithasol. Mae'r gwaith yn ymwneud â'r berthynas rhwng iaith,' neu, a bod yn fanwl, rhwng Cymraeg plant 9-10 oed ym Mhenrhyn Llyn, a'u cefndir cymdeithasol. Rhaid nodi Cymraeg yn benodol am y rheswm fod pob plentyn o'r oed yma yng Nghymru sy'n medru Cymraeg yn medru Saesneg hefyd. Mae dewis gan y plant, ac y mae hyn yn berthnasol i'r cwestiwn (yn anffodus ni allai'r awdur, William Ll. Griffith ystyried oblyg- iadau'r dewis yng nghyswllt yr ymchwil yr oedd wedi ei gosod iddo'i hun-pwynt y cyfeirir ato eto isod). Astudiaeth wyddonol a thechnegol sydd yn y llyfr, mewn maes a gysylltir yn arbennig â Basil Berstein, Athro Cymdeithaseg Addysg yn Institiwt Addysg Prifysgol Llundain. Dywed Mr. Grifnth wrthym mai Iddew wedi ei fagu yn East End Llundain yw Bernstein, ac y mae'r ddwy ffaith hon o bosibl yn berthnasol i'w ddiddordeb yn y maes. Sylwodd Bernstein fel llawer o ymchwilwyr eraill o'i flaen fod plant y dosbarth canol' yn fwy tebygol 0 lwyddo'n addysgol na phlant o'r un deallusrwydd o'r dosbarth gweithiol.' Mae'n amlwg fod llawer o ffactorau cymdeithasol yn cyfrannu at y sefyllfa hon, ond cyfeiriodd Bernstein ei ymchwil yn bennaf at y ffactor iaith. Datblygodd y ddamcaniaeth y gellid canfod dau code (y Cymreigiad côd a ddefnyddir yn laith Plant Llyn) o fynegiant cyfathrebol o fewn Saesneg, a'r gallu i drin y ddau gôd yw un o'r ffactorau gwahaniadol pwysicaf mewn liwyddiant.' Mae plant y dosbarth canol yn berchen ar gôd eang a chôd cyfyng,' ond yr olaf yn unig fel rheol sydd gan blant y dosbarth gweithiol. Dylid pwysleisio cyn mynd ymhellach nad tafodiaith ydyw côd; gall rhaniadau codol ddigwydd o fewn rhaniadau tafodieithol. Nid yw'n gofyn craffter mawr i sylwi fod cyferbyniadau deublyg megis 'canol v. gweithiol ac eang v. cyfyng yn simplistig ac annelwig fel y safant, ac yn galw am ddiffinio manylach. Ac y mae hyn wedi bod yn rhan o waith Uned Ymchwil Gymdeith- asegol' Sefydliad Addysg Prifysgol Llundain uned y mae Bernstein yn ymwneud yn uniongyrchol â hi. Yn anffodus yn yr arfaeth oedd llawer iawn o ymchwiliadau'r uned pan baratowyd laith Plant Llŷn, ac y mae'r awdur, William Ll. Griffith, yn cydnabod hynny. Erbyn hyn mae'r gwaith, neu beth ohono, wedi dechrau ymddangos a gellir cyfeirio at gyhoeddiadau P. R. Hawkins, D. Henderson a G. Turner yn cymhwyso syniadau Bernstein ar sail damcaniaethau M. A. K. Halliday ynglŷn â gramadeg systemig ('Categories of the Theory of Grammar,' Word 17: 241-92). Ceir cyflwyniad gofalus i'r maes diddorol hwn yn Sociaì Reiationships and Language. Some Aspects of the Work of Basil Bernstein, The Open University (Language and Learning Block 3), 1973. Dyfynnwn yn fyr i ddangos yn fras y llwybrau y mae'r ymchwil yn eu dilyn (i) Within the nominal group. middle-class children selected nouns and adiectives more often than working-class children. This shows a greater concern on the part of middle-class children to be verbally explicit in 'the classification and differentiation of persons, states and objects. (t. 46). (ii) working-class children move towards adverbial choices adverbs ol location such as up,' 'down.' there and out are preferred to adverbs of