Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi Mae'r llwybr wedi tyfu'n gyfarwydd, pob tro ac anwastadrwydd, pob deilen, mewn ffordd o siarad, yn mesur acen a churiad fy nhaith. Taith fer o ruthr y dŵr dan bont y pentref yn ôl i'r merddwr tywyll dan y coed crwm. Ond ynddi mae siâp fy nghysgawd erbyn hyn yn gwisgo gïau a chnawd. Rhwng y brigau, yn y gogledd, Ursa Maior, heuliau tân, pontydd goleuni, yn agor drysau, coridorau'n ôl i Sycharth, Abermenai, i bell gywyddau gaeaf yn neuaddau'r castell, llewyrch bregus y torchau, a'r fflamau'n gyfrin, fel y ffrwydrodd seren Bethlem hefyd unwaith ei hegni anhygoel o bellter llaid ac anhrefn y cynfyd anwar. A'r brigau eu hunain, maent hwythau'n hyd gwâr, yn fap dianwadal, ac yn dy diadfail. Maent yn bwrpas. Mae'r llu diamser yn warant perthynas i minnau. Ond wedyn, heibio i'r pwll dyfnaf, ar graig, gynnau, gwelais ddau lonydd, annisgwyl yn syllu, nid ond ar feidrol gnawd, a'r gannwyll wêr, fel gynt i'r bardd, yn ddewisach cwmni, pa mor farwol bynnag, na'r sêr dirifedi. LLWYBR YR AFON ar y disglair sêr, R. GERALLT JONES.