Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CWESTIWN OLAF Un fadredd fawr y ddaear Pan ddelo'r dilyw tän; Darperir arch i'th gadw Rhag llosgi'n ulw män. Ni syrth o'th fync asbestos Ar glyw na gweddi na rheg, Pan ddychwel.'deryn drycin  lludw lond ei geg. Marddwr lle bu dy lygad, A llwch lIe bu dy wallt; Smach angau Ue bu 'menyn Ar fara d'ofidiau hallt. Pwy ddaw i ddodi'r gweddill Y llwch tan gaead wrn, A Mab y Dyn a'r llanciau Yn golsyn yn y ffwrn? Huw LLEWELYN WILLIAMS