Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CARNEDDI Cywir uwch rhostir 'r estyn byd gwybod y gobaith diderfyn yn wawl y glas dros niwl glyn llywia haul nôd Llywelyn. 0 boen y daw'r hoen a rydd aur y wawr ar hiraeth y mynydd diau daw yn waed y dydd coffa difa corff Dafydd. Y DDWY GLUDAIR Rhwng cedyrn esgyrn pob esgair hoen hynt eu nentydd difloesgair o'r mawn hen islaw'r mân wair ledodd glod y ddwy Gludair. TRYFAN Nid dof marciau'r cof cyfan ar uchel wynebrychau'r greigfan, a hil raid yw'r dynol ran gwyd rhyfyg creigiau Tryfan. E.I.R. SYR IDRIS Idris Farchog, Tir Ogwen-a'i cododd; Cadarn fel y dderwen Yw'r Syr di-rodres ei wên A lywiodd brifwyl awen. H.LL.W.