Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFEILLION Â DYSG PROINSIAS MAC CANA Pur ei ansawdd yw Proinsias, doethur, ffrind, athro ffraeth heb eircas; ac ieithoedd dry'n gyweithas hyd ei fêr yn ddysg di-fas. DAFYDD BOWEN Gŵr o lythyrwr fath eiriau daen hud eneidia storïau, a'r gŵyl — daw hwyl diwyd wau- a dasg heulwen dysg golau. GERAINT GRUFFYDD Athro â'i gyffro dry'i goffrau yn nawdd ymenyddol gynnau: â'i wir pur myfyrwyr pau dywys gŵr y dysg gorau. THOMAS PARRY Prifathro graddio gwyr hyddysg, mur iaith â'i Gymraeg digymysg, maith roi nawdd meithrin addysg a wna dawn y pennaeth dysg. CAERWYN WILLIAMS Diseithug dafod seithiaith, da lygad i olygu'i feunyddwaith; annwyl ŵr tawel araith, ei ddysg rydd i wasg wir iaith. CONN Ô CLÉIRIGH Dug newydd ramadegwaith, gwir y gŵr, a'i gariad gwerinwaith elw ei gof hwyliog afiaith,— addas y gŵyr hon ddysg iaith. IDRIS FOSTER A llaw'n warchod llên orchwyl golyga golegau a phrifwyl Cymro da'r cymrodorhwyl gâr ddewis gair â'i ddysg gŵyl. V