Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwacter DYDD Sul. Teimlo'n flin. Cael fy neffro o gwsg braf am 6.30 a.m. Methu deall pam mae'n rhaid ein deffro mor fore. Cael slemp o 'molchi. Rhaid imi llnau fy nghlustiau wedi mynd adre. Ceisio bwyta fy uwd heb golli dim ar y gwely. Yr uwd yn dda, yn feddal ac nid yn lwmp caled. Methu llwyddo i fwyta'r cig moch ac wy yn dwt. Gorfod cael help i dorri'r cig moch. Er hynny ei fwyta'n flêr. Ceisio gwisgo amdanaf. Llwyddo ar ôl ymdrech galed heb gymorth nyrs. Teimlo'n falch am fy mod wedi llwyddo. Braf cael eistedd yn y gadair. Cinio da o gig oen, moron a thatws digon o ryfeddod. Pwdin reis hutennog ac afalau. Ceisio darllen ond yn methu. Llawer o ymwelwyr yn y prynhawn. Teimlo bod fy mhen yn wag. O.M. yn dwad yma ar ôl te. Llawer o gacennau ganddi i mi. Y nyrs yn eu rhoi yn y cwpwrdd rhewi. Y hi a'r gwr a'r plant yn annwyl iawn. Teimlo'n unig wedi i bawb fynd ond dim awydd darllen. Rhaid imi wneud rhywbeth i lenwi'r amser. Edrych allan ar y tai, pob un yn gartref i rywun. Hiraethu am fy nghartref cysurus fy hun. Cael swper o gig oer a salad a mynd i'r gwely wedyn. Cael tabled at gysgu. Mor dda yw cael cysgu drwy'r nos a chael cau llygaid ar boen. DYDD LLUN. Y bore eto yr un fath. Cael trafferth i wisgo amdanaf. Gorchymyn oddi uchod nad oes neb i'm helpu er mwyn imi ymarfer. Cinio da eto o selsig a thatws wedi eu berwi'n wynion, pwdin riwbob ac ysbwng melyn ar ei ben. Rhaid imi wneud rhywbeth ynglyn â'r gwacter yma. Ceisiais ddarllen heddiw ond methu. Nid oes gennyf ddim diddordeb yn y teledu, a phan fo rhywbeth diddorol yn Gymraeg mae gormod o siarad yn y ward imi fedru ei glywed. Er bod y rhan fwyaf ohonom yn medru Cymraeg, nid oes gan y gweddill ddim diddordeb mewn rhaglen Gymraeg. Mrs. N. yn dyfod â llyfr imi. Ceisiaf ei ddarllen ond ni fedraf fynd ymhellach na'r ail dudalen. Cael rhai o deisennau da O.M. i de a'u mwynhau. Y nyrs yn rhoi drwg imi am sefyll yn Ue eistedd pan wnâi hi'r gwely. Teimlo'n ddigalon. Ond nyrs arall yn dyfod i siarad efo mi a dweud ei bod wedi cael yr un salwch â mi rai blynyddoedd yn ôl a'i bod wedi gwella'n iawn ymhen chwe mis. Mae hi'n hoffus iawn a gwnaeth fi'n hapus. Felly y mae hi yn yr ysbyty yma: mae yma nifer o nyrsus sy'n glên a charedig ond mae yma rai sy'n medru bod yn gas. Er gwaethaf pob dim anniddorol yn fy mywyd, yr wyf yn meddwl, ond nid yw fy meddwl yn cyrraedd yn bell iawn; mae'n troi yn ei unfan o gwmpas y pethau bach sy'n digwydd yn yr ysbyty yma. Weithiau mae amrywiaeth, megis bore heddiw pan ddaeth gweinidog yma i roi'r cymun inni. Teimlo'n drist wrth edrych ar y llond dwrn o hen bobol, neb ifanc yn eu mysg. Ar y diwedd, un hen wraig, 93 oed, yn mynd at y gweinidog a dweud, On'd tydi Cymru yn wlad braf?" Medraf chwerthin wrth feddwl am y gwrth- gyferbyniad, ac mae'r sylw yn rhoi rhywbeth imi feddwl amdano am dipyn. A dyma fi'n cael syniad, beth pe bawn i'n cyfansoddi stori yn fy meddwl er