Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

E. Prosser Rhys: Rhai Ffeithiau GWELAIS yn ddiweddar fwy nag unwaith mewn print, wahanol flynyddoedd yn cael eu cynnig fel dyddiad geni Prosser Rhys, a'i enedigaeth yn cael ei phriodoli i fwy na dau dyddyn. Dengys Llyfr Bedydd capel M.C. Bethel, Trefenter, i Edward Prosser ei eni'n fab i David ac Elizabeth Rees, Pentremyny (sic), ar y 4ydd o Fawrth, 1901, a'i fedyddio ar y 9fed o Fawrth. Sylwer mai Elizabeth oedd enw ei f.im ac nid Hannah, fel y dywed un hanesydd lleol. Pentremynydd yw enw'r ty a'r mân-ddaliad ar fap O.S. XV ac yno y ganwyd y bardd, nid yn Pentre Uchaf, fel y dywed yr un hanesydd lleol, nac ym mhentref Bethel, ger Llyn Eiddwen," fel y'i ceir yn ysgrif ddiddorol awdur arall. Bwthyn llai, ac ychydig yn nes at Gapel Bethel, yw Pentre Uchaf. I Lainffwlbert yr aeth Dafydd ac Elizabeth Rees i fyw pan briodasant ac yno y ganwyd eu plant i gyd ac eithrio Prosser. Ym Mhentre- mynydd y ganwyd ef ac yno bu'r teulu yn byw nes iddynt symud i Forfa Du, ar ôl i Prosser Rhys adael cartref i weithio. 'Rwyf i fy hun yn ei gofio yn y Pentre, fel y'i gelwir yn arferol, pan oedd yn yr ysgol. Mae cyfoeswyr a ffrindiau iddo yn ei gofio'n dod nôl o'i swydd fel newyddiadurwr yn y sowth," ac yntau'n sâl, i Bentremynydd. Anghywir felly yw dweud mai gerllaw ei gartre oedd Ysgol Cofadail pan fu E.P.R. yno, ac nid o Forfa Du y croesodd Prosser ifanc y Gors i ysgol ddyddiol Cofadail." Na, ar hyd yr Heol o'r Pentre, heibio i Dynrhyd a Chapel Bethel, heibio i Benbanc, yn groes i groesffordd Troedfoel, heibio i Dancastell ac i'r ysgol, dyna ffordd nesaf E.P.R. Yn ô1 Ilyfr Log yr ysgol, ar yr ail o Hydref, 1914, noda'r ysgolfeistr newydd, G. M. Loyn: Two children have left, Edward P. Rees attending the Aberystwyth County School. Ffynhonnell ddiddorol ac anhepgorol, a rydd ffeithiau am fywyd cynnar E.P.R. a'i deulu yw ei gerdd Y Gof." I ddechrau dywed y bardd, Lle clywir nadau'r dymestl gyda'r nos Ar Fanc y Grip a'r gaeaf yn y tir,— Lle clywir murmur araf Wyre dlos Ar nawn o haf islaw'n y dyffryn hir Y ganwyd 'nhad Yn un o dyaid plant hen wledig o'. Un o deulu gofaint Maes-llyn, Llangwyryfon, oedd tad E.P.R., ond hyd yn hyn ni chefais neb yn abl i roi enw'r bwthyn eithaf llwyd ei raen lle ganwyd Dafydd Rees. Ar ochr ogleddol y Wyre, ychydig i'r gorllewin o Langwyryfon, mae Banc y Grip, a saif ffermdy Maes-llyn ryw hanner milltir i'r dwyrain- ogleddol o ffermdy'r Grip. Eto nid ym Maes-llyn y ganwyd Dafydd Rees. Ffarm sylweddol yw Maes-llyn, nid bwthyn llwyd, ac ni chlywir murmur Wyre oddi yno. Rhaid mai ddim ymhell o Felin Cwm, ond i fyny o ymyl yr afon, yr oedd y bwthyn a'r efail. Oddi yno, symudodd Dafydd Rees (cofiwn