Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Clywais stori am Dafydd Rees fyddai'n esiampl o'r math o stori y carai ef. Daeth cymydog heibio i Lainffwlbert, ffermwr go bwysig, ar ei ffordd i ffowla ar y banc, mae'n debyg, ac i dynnu coes y gof, a oedd yn hollol anghyfarwydd â thanio gwn, estynnodd y gwn iddo, tynnodd ei gapan o'i ben ei hun, heriodd y gof i'w bwrw a thaflodd y capan i'r awyr. Cododd Dafydd Rees y gwn yn araf i'w ysgwydd a phan ddisgynnodd y capan i'r ddaear taniodd ddau ergyd, nes darnio'r capan yn rhacs. Poendod o beth i'r ffarmwr, a gredai nad oedd perygl i'w hoff gapan yn yr awyr. Cofir hefyd y boddhad amlwg a fynegodd y gof pan enillodd Prosser ni" goron Pont- y-pwl yn 1924. Rhyfedd felly i'r bardd, os hunangofiannol yn wir yw'r bryddest "Atgof," droi yn erbyn ei dad yn nhrydedd soned y gerdd. Yr esboniad lleol yw i agwedd ei fam effeithio ar y mab, agwedd nad oedd iddo wir sail. Dyn mawr ei barch yn yr ardal oedd Dafydd Rees hyd ei ddiwedd. Y gwr a ddisgrifir yn Y Gof oedd, nid y tad a grybwyllir yn Atgof." Wedi i'r plant adael y nyth, ac i Dafydd Rees roi'r gorau i'r eingion, symudwyd 'nawr i le llai, i fwthyn rhwng Moreia a Bethania. Elisabeth Rees oedd y ddiwethaf i farw, ac o Dynrnŷd, Moreia, y claddwyd hi. Yn Ysbyty Aberystwyth y bu farw Edward Prosser Rhys yn Chwefror 1945. Trefenter GWYN WILLIAMS Fe ellwch helpu'r TRAETHODYDD (a) drwy ei dderbyn yn gyson; (b) drwy annog eich cyfeillion i'w dderbyn yn rheolaidd; (c) drwy ofalu ei fod yn llyfrgell gyhoeddus eich tref; (ch) drwy ofalu ei fod yn llyfrgell ysgol uwchradd eich ardal. Bydd dau rifyn o'r hyn lleiaf yn rhifynnau arbennig yn 1978, y naill rifyn yn canolbwyntio ar broblemau'r Eglwys yn y blynyddoedd nesaf, y llall yn trafod Dafydd ap Gwilym. Mae haelioni'r Cyngor Celfyddydau yn agor y ffordd i ni wella'r TRAETHODYDD. Byddai eich help chwi i ehangu'i gylchrediad yn agor y ffordd ymhellach fyth.