Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dwy Gân GAIR YMLAEN LLAW I geisio diolch am fy lIe A chroeso daer achlân, Rhag gadael heb na bw na be Y lluniais hyn o gân. Hen ffrindiau hoff, rhag ofn i chwi Ar ôl im ado'r llawr Drafferthu dweud fy hanes i — Gwrandewch fy stori'n awr. Ac os sibryda rhywun clên Am fyr-o-frychau ddyn, Gwybyddwch bawb fod mynd yn hen Yn gwynnu ambell un. Er byw ymysg yr uchel goed Yn Nyffryn Aled gynt, Ni chodais i uwchlaw bawd troed Ond ar ysbeidiau'r gwynt. Methu, er gwneud fy ngore glas Yn foddfa o chwys i gyd; Brethais fy nhafod rhag gair bras Ar amal dro'n y byd. Ces wobrau tymor yn eu pryd, Colledion tywydd brau, Gaeaf a oedd yn hwy na'i hyd, Haf Ilwynog, un neu ddau. Y Sasiwn a'm gosododd i Funud ar ben ei bryn: Ni welais ei phinaclau hi Ddim unwaith wedi hyn. Cyhoeddodd golygyddion craff Ysgrif ac ambell gân; Allan 0 law aeth llu vn saff I'r fasged ac i'r tân.