Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CAPEL Gan LUDWIG UHLAND Droben stehet die Kapelle Ar y mynydd saif y capel, Sylla'n fud i'r cwm is-law; Yn y maes ger dyfroedd tawel Cân y bugail heb un braw. Trist y tery'r gloch y dyffryn, A cheir ias o leisiau'r côr; Tawa'r llanc a'i lawen nodyn Wrth glustfeinio'r gân i'r Iôr. Uchod cleddir dan yr irddail Rai fu'n llawen yn y fro; Lanc o fugail, lanc o fugail, Canant yno i ti ryw dro. Cyf. HEINI GRUFFYDD wedi ymweliad â'r Kapelle hudol yn Wurmlingen ger Tübingen, 29ain o Orffennaf, 1977.