Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T. H. Parry-Williams: Bardd Myfyrdod HEB os nac oni bai, un 0 lenorion mwyaf creadigol ein hoes ni yng Nghymru oedd Syr Thomas Parry-Williams. Ymhellach, fe gymerai ei Ie ymhlith llenorion enwocaf Ewrop pe bai modd trosglwyddo ei farddoniaeth yn ei holl ogoniant, yn ei chrynswth, i genhedloedd eraill. Byddai cyfieithydd ei farddoniaeth yn wynebu anawsterau enfawr oherwydd y cysylltiadau arbennig o glos rhyngddi a'r awyrgylch a'r gymdeithas a ffurfiodd feddylfryd y bardd o'i febyd; anawsterau eraill hefyd sydd yn codi o'i arddull bersonol, unigryw yn ogystal â'i gariad angerddol at ei fro gynefin a'i hiaith bro ac iaith sydd i raddau helaeth yn anadnabyddus yng ngwledydd eraill y byd. Cafodd ei eni yn 1887 yn Nhy'r Ysgol, Rhyd-ddu, yn Arfon. Cafodd yrfa o fri ac enillodd raddau yn Aberystwyth, Rhydychen a Freiburg cyn dychwelyd i Gymru yn 1918. Yn 1912 ac eto yn 1915 enillodd y Gadair a'r Goron yn y Genedlaethol buddugoliaeth fawr ac ystyríed ei holl waith academaidd ar y pryd; ond dyn canol oed oedd ef pan gyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth yn 1931, sef Cerddi, cyfrol o sonedau a rhigymau ffurf newydd a ddyfeisiodd Parry-Williams ei hun er mwyn cyfleu ei syniadau yn anffurfiol, yn uniongyrchol. Ni chyfansoddodd awdl na phryddest wedyn — nid oedd y mesurau hyn yn addas i'w athrylith farddonol ond fe ddaeth yn feistr adnabyddus ar y ddwy ffurf a ddefnyddiodd yn fwyfwy medrus drwy weddill ei oes. Syfrdanol o amlochrog oedd personoliaeth Parry-Williams, ac yn wir, y bersonoliaeth hon sydd yn llenwi ei farddoniaeth gyfan, fel na cheir un gerdd sydd heb fod yn dwyn ei hargraff arni. Dyma brif nodwedd ei gerddi, felly, eu hansawdd personol, goddrychol beth bynnag fo'r testun. Wrth drin a thrafod pethau fel bro a theulu, wrth gwrs, y mae hyn i'w ddisgwyl. Ond gwir arbenigrwydd Parry-Williams, greda i, yw cyflwyno ei syniadau dyfn- ddoeth am fywyd a chyflwr dyn yn y byd sydd ohoni yn y dull personol hwn, mewn barddoniaeth mor gywrain. A chan fod ei natur ef mor amlochrog, cawn olwg amlochrog hefyd; ar yr un pegwn y celfyddwr, ar y llall y gwyddonydd, a rhwng y ddau, y dyn direidus hynaws, rhadlon, y cwmnïwr gwylaidd, swil. II. Yn bennaf oll, bardd myfyrdod oedd Parry-Williams, bardd yr oedd ganddo dueddfryd i synfyfyrio'n ddwfn am ddynoliaeth a'i thynged a'i hanian, am grefydd, am Dduw, am Nef ac Uffern, am angau, am yr holl bethau dyrys yna sydd yn dal i fod yn gwestiynau pen-agored i bawb, a phawb yn gyfrifol am eu hatebion eu hunain; nid oedd neb yn fwy ymwybodol o hynny na Parry-Williams. Fel llawer o'i gyfoeswyr fe droes ei gefn ar ffurfiau crefyddol Anghydffurfiaeth; ond cadwodd ryw gydymdeimlad â'r dulliau o addoli a brofodd yn llanc yn ei gynefin, fel y disgrifir hwy yn y ddwy soned­ Oedfa'r Hwyr a John ac Ann y mae'n hiraethu weithiau am ddiniweid-