Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dau Emyn (i ddiolch am ein treftadaeth ym myd celfyddyd) Mawrygwn Di, O! Dduw, Am bob celfyddyd gain, Am harddwch ffurf a llun, Am bob melyster sain; Ti'r Hwn sy'n' puro ein dyheu, Bendithia gamp y rnai sy'n creu. Mawrygwn Di, O! Dduw, Am ein treftadaeth hen, Am rin y bywyd gwâr, Ac am drysorau llên; Ti'r Hwn sy'n puro ein dyheu, Bendithia gamp y rnai sy'n creu. Mawrygwn Di, O! Dduw, Am wreiddiau i'n bywhau, Ac am gymdeithas dda Sy'n cymell dy fawrhau; Ti'r Hwn sy'n puro em dyheu, Bendithia gamp y rnai sy'n creu. (Gellir ei ganu ar y dôn Rhosymedre ") Down i Seion, Iôr digymar, Hyn yw uchel fraint pob un, A phob perchen anadl yma A'th glodfora yn gytûn. Yn ein glendid yr ymwisgwn — Glendid calon, meddwl, gair, Fel y byddom oll yn deilwng I'th fawrygu 'Nghrist fab Mair. Canu a wnawn â'r ysbryd tyner Cans y Cwbwl Arall yw Gwrthrych ein haddoliad sanctaidd Hardd, goruchel, grymus Dduw. Canu a wnawn â'r deall hefyd, Cofiwn gariad Calfari Lle'r ymgrymaist at blant dynion I'w cymodi â Thydi. EMYN W. RHYS NICHOLAS MOLIANT