Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Diwinyddiaeth Gobaith YN rhifyn Gorffennaf, 1971, o'r TRAETHODYDD ymddangosodd erthygl gan y Prifathro R. Tudur Jones ar y testun Diwinyddiaeth Gobaith." Dechreuodd trwy enwi dau brif ladmerydd y ddiwinyddiaeth hon, sef Jurgen Moltmann, Tübingen, a Wolfhart Pannenberg o Mainz, yn awr o Brifysgol Munich, a galw sylw at eu pwyslais trwm ar ddysgeidiaeth y Testament Newydd ar Atgyfodiad Crist." Dywed y Prifathro Dyma'r ffaith fawr wefreiddiol sy'n sylfaen pob ymagweddu Cristionogol at y byd. Dyma hefyd fan cychwyn y dyfodol Cristionogol. Oherwydd yr Atgyfodiad sy'n datguddio gliriaf fod Duw'n Dduw sy'n cytlawni ei addewidion. Ond yn Atgyfodiad Iesu Grist y mae'r diwedd y mae pob Cristion yn hiraethu amdano gyda'i fuddugoliaeth ar bechod a marwolaetn eisoes wedi ymddangos yn ein hanes. A Duw'r dyfodol hwn a'i datguddiodd ei hun yn Iesu o Nasareth. Duw sy'n dod i'n cyfarfod yw'r Duw y tystiolaethir iddo yn y Beibl. A phennaf nodwedd y ddysgeidiaeth hon am y díwedd yr eschatoieg hon yw ei bod yn cynhyrchu gobaith a'r gobaith hwnnw'n esgor ar weithredu chwyldroadol i newid y byd drwg presennol mewn ufudd-dod i ofynion Duw yn Iesu Grist. Yna â'r Prifathro ymlaen i sôn am un o nodweddion y ddiwinyddiaeth hon, sef ein bod yn wynebu ein cenhedlaeth jnewn ysbryd pur feirniadol bu ei lladmeryddion wrthi'n beirniadu ac yn dadansoddi'r gwahanol ffurfiau ar anobaith sydd wedi carcharu gwyr yr ugeinfed ganrif mewn llawer gwlad. Yng ngweddill yr erthygl trafod y mae'r anobaith hwn ym mywyd Cymru heddiw, a'r unig gyfeiriad pellach sydd ganddo at gynnwys Diwinyddiaeth Gobaith ydyw'r hyn a ddywed Moltmann am y lle a roir i'r eglwys ac i ddiwinyddiaeth yn y gymdeithas gyfoes. Ar ddiwedd ei erthygl dywed Dr. Tudur Jones ei bod yn naturiol i'r darllenydd ofyn pwy yw'r dynion hyn? Pa lyfrau ac erthyglau a ysgrifennwyd ganddynt ? A sut y maent yn cysylltu eu gobaith â thystiolaeth yr Ysgrythur ac ag athrawiaethau mawr y Ffydd Gristionogol? Dyna fydd y pwnc y tro nesaf. Ond hyd yn hyn ni ddaeth y tro nesat, ac ymgais yw'r erthygl hon i ateb y cwestiynau uchod. Y diwinyddion pwysicaf yn yr ysgol non yw'r ddau a enwir gan y Prifathro. Fel y dywed ef, Moltmann syn bennaf gyfrifol am y label Diwinyddiaeth Gobaith." Efô yw'r mwyaf adnabyddus a'r mwyaf cyn- hyrchiol o'r diwinyddion hyn. Cyhoeddodd lu o erthyglau a phump o lyfrau swmpus a gyfieithwyd i'r Saesneg. Y cyntaf o'r rhain ydyw Theology of Hope (1967 yw blwyddyn cyhoeddi'r cyfieithiad Saesneg gan Wasg Mudiad Cristionogol y Myfyrwyr); yna Hope and ?lanning (M.C.M., 1971). Cyfeirir at y ddwy gyfrol yma yn llyfryddiaeth Tudur Jones ar derfyn ei erthygl. Wedyn yn 1972 cyhoeddwyd The Crucified God (M.C.M.). Hwn, ynghyd â Theology of Hope yw'r pwysicaf o'i lyfrau; y mae'n anhepgor ei ddarllen os am ddeall cnewyllyn dysgeidiaeth Moltmann. Y pedwerydd yw Theoloay and Joy, a'r diwethaf yw The Experiment Hope (M.C.M., 1975). Cynnwys y gyfrol hon bedair ar ddeg o erthyglau wedi'u hysgrifennu rhwng 1966 a 1972. Fel cyfarwyddyd i ddarllenwyr Y TRAETHODYDD y mae'n werth