Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau FRIEDRICH DÜRRENMATT, Yr Adduned, cyf. o Das Versprechen gan Robat G. Powell (Yr Academi Gymreig, 1976). Pris £ 1.00. Yn 1976 rhoddodd Cyngor y Celfyddydau yng Nghymru ei Wobr Awduron Cyd- genedlaethol i Dürrenmatt ac ar wahân i sicrhau perfformiad o ddrama o'i eiddo, fe fu hyn yn achos tri chyfieithiad, un o stori fer yn laìiesin, un yn Saesneg o Writings on Theatre and Drama," a'r olaf y stori sydd dan sylw. Rhaid i mi ddweud imi synnu gweld y geiriau Published with the support of the Welsh Arts Council tu ôl i wyneb-ddalen yr ysgrifau ar Ddrama. Mae'n gwestiwn o egwyddor a ddylid defnyddio arian prin y Cyngor yng Nghymru ar lyfr a'i apel at farchnad weddol esoterig yn Saesneg a hwnnw'n gyfieithiad pur brennaiaa gan H. M. Waidson, a feirniadwyd yn y T.L.S. am Chwefror 25, 1977, e.e., Dürrenmatt's writings on the theatre, hitherto available in German, are now available in, it seems, non-English." Am Yr Adduned, ar yr wyneb stori dditectif ydyw ond y mae'r diddordeb yn fwy mewn cymeriadau nag mewn ymenyddwaith aarganfod y llofrudd. Y mae'n fwy yn nhraddodiad storïau Simenon na thraddodiad y stori dditectif gyfoes ym Mhrydain. Ond hyd yn oed yma y mae gwahaniaeth gan fod Maigret yn weithredol yn storïau Simenon, yn rhoi proc ymlaen neu'n camu'n ôl yn fwriadol 1 edrych ar y plot, tra nad oes dim bron yn digwydd yn Yr Adduned, a phob ymyrraeth yn arwain i rwystredigaeth. Ar olwg fras, ymddengys i mi fod stori fer, set y diweddglo a'r datguddio, wedi ei thacio wrth stori dditectif am ymchwil aflwyddiannus. Mae'n debyg fod arddull herciog Swis-Almaenaidd Dürrenmatt wedi creu anawsterau i'w gyfieithwyr, ac er bod Powell wedi llwyddo'n well na Waidson i'w goresgyn, nid yw ei fersiwn yntau'n darllen yn rhugl. Gall fod yn bur anystwyth a chamarweinioi. I roi enghreifftiau mân o nifer mawr posibl, ar d. 17 defnyddir debyg iawn nid yn yr ystyr gyffredin wrth gwrs ond yn yr ystyr yn amlwg (ottenbar). Tueddir i ddefnyddio geiriau gorlenyddol. e.e., t. 82, byseddu yn lle bodio t. 16, gwadu cyffes yn lle tynnu cyffes yn ôl (widerrufen). Mae "o hyd ar waelod t. 134 yn gyfieithiad diystyr o noch. Y priod-ddull naturiol yw plant o ddychymyg neilltuol," nid plant â dychymyg neilltuol." Nid nad yw'r llyfr yn werth ei ddarllen am ei ddisgrifiadau o blwyfoldeb cefn gwlad y Swistir, ac o gulni a defodaeth ei threfn weinyddol. Ond yn y diwedd a oes yma lawer mwy na disgrifiad sathredig o rwystredigaeth a diffyg gwybodaeth? Mae'n deg i Gymru anrhydeddu llenorion tramor ond ofnaf foa dewis Dürrenmatt yn enghraifft o'n dawn genedlaethol i ddewis yr ail orau a ffasiwn y 1oment yn Lloegr. Gall Dürrenmatt fod yn athrylith ond athrylith o'r ail radd ydyw. Aberystwyth J. HENRY JONES T. GLYN THOMAS, Dyddiadur Iesu o Nasareth (Tÿ John Penry). £ ı.35. Ymgymerodd y diweddar Barchedig T. Glyn Thomas â thasg anodd iawn pan aeth ati i sgrifennu'r gyfrol hon. Bu llawer iawn yn ceisio llunio cofiant i Iesu, ond dwn i ddim am neb o'r blaen yn ceisio cyflwyno'i hanes yn y ffurf o ddyddiadur gan Iesu ei hun. Y mae'r anawsterau'n ddi-ri. Wrth lunio coham: gall yr awdur ddelio â bywyd Iesu o'r tu allan, fel petai, a'i ddisgrifio'n unig trwy gyrrwng y digwyddiadau a'r dywediadau, a thrwy ddefnyddio profiadau'r rhai a gyfarfu â Iesu yn ystod ei fywyd. Ond wrth ysgrifennu dyddiadur y mae'n rhaid treiddio i mewn i brofiadau mewnol y Gwaredwr, a pha greadur meidrol fedr ddirnad pa fath ar Deth ydi'r profiad o fod yn Dduw-ddyn? Yr iaith wedvn. 'Does dim hanes am Iesu'n sgrifennu'r un gair ei hun ond pan luniodd air â'i fys yn y tywod. Fe lefarodd lawer o eiriau, ond 'does gennym ni ddim syniad sut y