Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gyfan gwbl: peth mewnol yw'r Deyrnas-yn y galon.' Dyma felly ddad-fythu pur drwyadl, ac efallai fod angen hynny i bwrpas perthnasu'r Efengyl â'n hoes ni. Y mae'r iaith yn tueddu i fod yn iaith lafar, ac yn eitha llyfn. Ond daw ambell ymadrodd chwithig i mewn, fel y gorchymyn i Lefi wneud tipyn o swper sbesial/ a'r disgrifiad o'r wledd wedyn: Cawsom amser difyr dros ben.' Sonnir am gael 'oedfa fawr,' am ateb slic,' a gofynna'r disgyblion i Iesu Dysg weddi fach inni.' A naturiol i un a bregethodd ar hyd a lled Cymru gynnwys yn y dyddiadur ambell frawddeg sy'n swnio braidd yn bregethwrol. Fel hon: 'Pa bryd y daw'r crefyddwyr yma i ddeall fod dyn yn fwy na dydd, a dyndod yn bwysicach na deddf?' Ac eto 'Nid diffinio'i wrthrych a wna cariad ond ei ddarganfod. Ond diolch a ddylem am-y llyfr hwn, a galiwn gytuno'n galonnog ag Eifion Powell y ceir 'budd a bendith' wrth ei ddarllen, a'i fod yn 'ychwanegiad gwerthfawr at lenyddiaeth ddefosiynol y Cristion Cymraeg. HARRI WILLIAMS D. BEN REES, Enwogion Pedair Canrif, 1400-1800 Gwasg Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 1976). Pris £ 1.50. Ffrwyth cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd, 1972, yw cynnwys y gyfrol hon er na sonnir am hynny yn y rhagair. tr oedd yn un o bedwar casgliad o Ddeuddeg o ysgrifau cofiannol ar gymeriadau enwog yn hanes Cymru, 1450-1800 (llyfi addas i ddisgyblion 15-18 oed),' a anfonwyd i'w beirniadu i'r Athro Glanmor Williams Dyfarnodd ymgais Mr. Ellis Wynne Williams, Abergele, yn fuddugol a chyhoeddwyd yr ysgrifau gan Wasg Gomer. Yn wahanol i'r gyfrol sydd dan sylw, cynhwysodd Mr. Williams luniau, map, a phennod ar bynciau trafod. Rhestrodd Glanmor Williams saith o nodweddion a gredai ef y dylid eu cael mewn gwaith o'r fath, gan gadw'r disgyblion a'r athrawon a fyddai'n eu hyfforddi, mewn cot'. Braidd yn siomedig oedd ymateb y beirniad, a hynny'n bennaf oherwydd y dewis ystrydebol a diddychymyg o'r cymeriadau. Er engnraitft, dewisodd dau o'r cystadleuwyr Griffith Jones, Howel Harris, Daniel Rowland a Wiüiams Pantycelyn; dewisodd un arall Jones, Harris a Peter Williams! Dynion mawr bob un ohonynt, wrth gwrs; a chymwynaswyr nodedig i'w gwlad, bid siwr. Ond pob un ohonynt yn perthyn i'r un cyfnod a'r un cyffro. Gyda phob dyledus barch, 'roedd yna bethau eraill yn digwydd yng Nghymru'r ddeunawfed ganrif heblaw'r Diwygiad Methodistaidd! Canolbwyntiodd yr ymgeiswyr yn ormodol ar grefyddwyr a llenorion ym marn Glanmor Williams, ac arweiniodd hynny yn naturiol at undonedd a diffyg cydbwysedd. Wrth nodi'r deuddeg gŵr a ddewisodd Ben Rees i'w trafod, gwelir nad yw yntau'n osgoi'r feirniadaeth uchod. Dyma'r cymeriadau a gafwyd ganddo: Dafydd ab Edmwnd. William Salesbury, Gruffydd Robert, William Morgan, Morgan Llwyd, Syr John Philips. Edward Lhuyd, Griffith Jones, Daniel Rowland, Howel Harris, Williams Pantycelyn a Goronwy Owen. Rhaid cytuno â geiriau clawr cefn y gytrol fod pob pennod yn flasus ac yn ddiwastraff, ac yn ddelfrydol ar gyfer ysgolion a cholegau, carwyr llenyddiaeth Gymraeg a chwilotwyr hanes,' a rhaid diolch i'r awdur am gyfiwyno inni gynhaeaf ei ddarllen eang a gofalus ym meysydd ysgolheictod diweddar. A bydd cael y llyfryddiaeth fanwl ar ddiwedd y gwaith yn gaffaeliad hefyd. O gofio mai ar gyfer disgyblion yn eu harddegau y lluniwyd y gwaith, ni chredaf mai peth doeth oedd cynnwys y troed- nodiadau a'r cyfeiriadau llenyddol mynych. Ar argraff a gefais i oedd y byddai'r bechgyn a'r merched fydd yn debygol o elwa iwyaf ar y gyfrol yn blino ar y dull braidd yn fecanyddol a fabwysiadwyd. Gresyn na fuasai Ben Rees wedi osgoi'r un patrwm set ar gyfer pob ymdriniaeth yn lle amrywio'i ddull mewn ambell ysgrif. Un feirniadaeth arall sydd gennyf yw y dylai'r awdur fod wedi ymdrafferthu mwy gyda chystrawen ac orgraff, gan gofio mai ieuenctid yn ymbaratoi ar gyfer arholiadau fydd y darllenwyr. S