Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhag i neb gael camargraff, brysiaf i ddweud fod hon yn gyfrol sy'n llawn o bethau da, a bydd disgyblion yr ysgolion uwchradd yn falch iawn o'i chael. Y mae'n arweiniad diogel i unrhyw un sydd am ddeall ein hetifeddiaeth deg ym meysydd crefydd, llên ac ysgolheictod. Wrth fodio tudalennau'r gyfrol hon a rhai tebyg iddi a gyhoeddwyd yn ddiweddar, 'rwy'n teimlo'n genfigennus iawn o'r to sy'n codi am fod yna gymaint gwell darpariaeth ar eu cyfer hwy nag oedd pan oeddwn i yn fy arddegau yn ceisio deall gwaith y gwyr a drafodir. Diolch i Ben Rees am y gymwynas ddiweddaraf hon â'n llên. W. J. EDWARDS MERFYN Jones, Mae'r Bambw'n Gwywo (Gwasg Tŷ ar y Graig, 1976). Pris .eL75. Y mae pawb ohonom a faged yn Fethodistiaid Calfinaidd mewn Ysgol Sul a Gobeithlu yn bur gyfarwydd â chlywed am Faes Cenhadcl yr Hen Gorff yn Assam yn India. Darllenem am ei hynt a'i helynt yn Y Cenhaawr, ac ambell waith deuai cenhadwr neu genhades a oedd gartref am seibiant i'n plith i ddangos lluniau ac i sôn am y gwaith ar y bryniau a'r gwastadeddau. Ond er imi gredu y gwyddwn cryn dipyn am y darn hwnnw o India, nid cyn imi ddarllen y notel hon gan un a fu'n genhadwr yno am ddeuddeg mlynedd y deellais cyn lleied a wyddwn i mewn gwirionedd. Nid rhyfedd felly fod cefndir Indiaidd y nofel yn ddilys ac yn ein argyhoeddi'n llwyr ac y mae'n braf cael arbenigwr i'n cytlwyno i arferion y wlad heb sôn am fanylu ar y bwydydd, y tywydd, a theithio yn y darn gwlad sy'n ffinio â Bangla Desh. Cynhwysodd yr awdur nodiadau gwerthfawr ar ddechrau'r llyfr, i'n cynorthwyo drwy egluro termau ac enwau lleoedd a llwythau. O'm rhan fy hun rhaid addef fod y stori mor ddifyr fel nad ymboenais i droi o hyd ac o hyd at y nodiadau. Ond rhaid ychwanegu eu bod yn cyfoethogi'r nofel hefyd. Nofel Fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin, 1974, sy'n adrodd hanes llanc o Gymro yn dychwelyd i Ardd De ei dad ar ôl Dod yn ysgolia am rai blynyddoedd yng Nghymru sydd yma. Nid oedd ei dad yno i'w groesawu a chafodd eglurhad buan am ei absenoldeb. Aethai yng nghwmni gwr a ddaethai i fyw i'r ardal yn ddiweddar ar drywydd Meibion y Chwyldro ac ni fu'r mab yn hir cyn eu dilyn yng nghwmni merch y dieithryn. Sect wleidyddol eithafol yw'r Meìbion a dywedir wrthym mai pypedau yn nwylo'r Chineaid ydynt. Oddi yno y caent eu harfau a'u cyfarwyddyd. Er mai fel gwyr milain y darlunnir hwy buasai'n dda gennyr pe bai'r awdur wedi sôn mwy am eu gobeithion a'u delfrydau. Preswylwyr y gwastadedd yw'r meibion ystrywgar ond ceisiant gyrraedd y bryniau er mor anodd oedd cyrchu yno drwy'r jyngl. Gwnaed pethau'n haws iddynt am ei bod yn flwyddyn pan oedd y bambw'n gwywo. Manylodd yr awdur, ar daith y Cymro a'i bartneres a chan ei fod yn gwbl gyfarwydd ã'r rhan yma o'r India llwyddodd i gyflwyno inni stori gredadwy a diddoroi. Yr oedd gan Feibion y Chwyldro reswm pendant iawn dros gyrraedd y bryniau, 'roedd trvsor drud wedi'i guddio yn un o'r amrvw ogofâu i fyny yno. Methiant fu'r ymdrech i ddod o hyd iddo ond cyn diwedd y nofel datgelir cyfrinach yr ogof inni, ond nid arian nac aur yw'r trysor. Llwyddodd yr awdur i gyfleu inni'r cefndir estronol yn fyw iawn a defnyddiodd eiriau Hindwstani a Bengali yn effeithiol yn y stori. Mae'r cymeriadau'n datblygu'n fyw o'n blaen ac y maë'r tyndra yn y naill argyfwng ar ôl y llall yn gafael yn barhaus. Er mai nofel i blant rhwng 9 a 13 oed yw hon, 'rwy'n siwr y caiff pobl ifainc a rhai hyn flas mawr arni. Gan i Merfyn Jones gaei cystal hwyl ar gyflwyno'i stori ddifyr inni, 'rwy'n edrych ymlaen at nofel fwy aeddfed wedi'i lleoli yn India. W. J. EDWARDS