Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DAFYDD Owen, Ys-Gwni (Gwasg Tŷ ar y Graig, 1976). Pris £ 1.75. Mae dull Dafydd Owen o gyflwyno'i ddeunydd yn y gyfrol gyntaf hon o'i ryddiaith greadigol yn wreiddiol a dweud y lleiaf. Y mae iddi bump adran Ys-tori, Ys-grif. Ys-gwrs, Ys-tyriaeth, ac Ys-grythur, a cheir dwy bennod ym mhob un ohonynt. Ceir yma gryn amrywiaeth a chwmpasir yr ysgafn a phethau heb fod mor ysgafn yn ddifyr iawn. Cafodd yr awdur eirda neb llai na Kate Roberts i'r stori Catrin sy'n agor v gyfrol gan ei bod yn ymdriniaeth anghyffredm iawn o atgofion hen wraig. Camp fawr y stori yw gwau holl siarad y nain, y fam a'r wyres, yr hwylio bwyd a'r bwyta i mewn i'w gilydd yn hollol naturiol." Yr oedd yn dda gennyf gael cadarnhad y stori i wirionedd a glywais fwy nag unwaith yn ddiweddar, sef y dylai plant dreulio llawer o'u hamser yng nghwmni eu rieiniau. Un rheswm dros wneud hynny yw mai dyma'r ffordd y mae un genhedlaeth yn trosglwyddo'i hetifeddiaeth i un arall. Ni chefais yr un gafael ar y stori Wedi'r Haul' er bod yr awdur yn ymdrechu'n deg i fynd i'r afael â chymhlethdod bywyd syml. Pe bawn yn sôn am fan gwan y gyfrol, am y ddwy ysgrif y soniwn, gan nad ydynt wedi apelio ataf. Disgwyliwn fwy o ddidwylledd yn y traethu am Bentre Gwyn' Anthropos a Rhydychen. A chyda llaw, Ei gweled ar Wyliau nid Ei Weled ar Wyliau ddylai fod uwchben yr ysgrif ar ddinas y colegau. Bydd llawer o'r rhai a gafodd y fraint o glywed y gantores enwog Laura Evans yn falch o gael darllen Laura Brynmeirion,' a hwn yw un o gyfraniadau gorau'r awdur yn fy marn i. Mae'r ail sgwrs sy'n sôn am gyfarfyddiad yr awdur â chanwr meddw yn y trên yr un mor ddiddorol ac agos-atoch. Y traethiad cyntaf dan ys-tyriaeth, lle mae'r awdur yn trafod 11e a gogoniant y gynghanedd yn y canu eisteddfodol, yw'r llith mwyaf dadleuol yn y llyfr, ac y mae'n siwr y bydd cryn drafod ar y sylwadau. Wedi darllen yr erthygl fe'm cefais fy hun yn mwmian, "'Dyw'r cynganeddion ddim fel y Duon nhw amser maith yn ôl." Bu'r awdur yn pori'n fanwl yng nghyfrolau cyfansoddiadau'r Brifwyl ac y mae'n cyflwyno ffrwyth yr ymchwil yn ddifyr dros ben. Ni wn beth fydd y rheini sy'n cael y fath hwyl wrth fynychu ymrysonau'r beirdd yn ei wneud o sylw fel hwn: Er na fu'r cystadleuthau hynny erioed heb eu heiliadau o ecstasi, putain barod ydi'r gynghanedd yn yr Ymrysonau Beirdd,' nid priod deg." Yn ail lith ys-tyriaeth mae'r awdur yn ail-ddweud yr hyn a fynegwyd droeon yn ddiweddar, fod y pulpud yn y ddrama heddiw. er mai'r gwrthwyneb oedd yn wir gynt. Fel y gellid disgwyl, Beckett, Ionesco, Gwenlyn Parry, Huw Lloyd Edwards a Saunders Lewis, yw'r dramodwyr y cyfeirir at eu gweithiau. Trafod dau gymal 0 lythyrau'r Testament Newydd a wna'r awdur yn adran ola'r gyfrol a diamau mai fel pregethau y cytlwynwyd y rhain gyntaf. Os gwir fy nyfaliad, gwyn fyd y cynulleidfaoedd a gafodd eu bwydo â stwff fel hwn. Wrth ganmol y stori Catrin' soniodd Brenhines ein llên am Gymraeg hyfryd y stori ac y mae hynny'n wir am weddill y gyfrol. Gwneir defnydd helaeth o gyflythreniad a gwrthgyferbyniad ac nid oes dim ystrydebol na phregethwrol yn y sgrifennu. Iaith rywiog, synhwyrus bro Hiraethog a geir yma, iaith aelwyd y Prifardd Dafydd Owen pan oedd yn blentyn yn Ninbych. Soniais eisoes mai hon yw cyfrol gyntaf yr awdur o ryddiaith greadigol, ac ar 61 y pleser a'r mwynhad a gefais wrth ei darllen gobeithiaf am arlwy debyg ganddo eto cyn bo hir. W. J. EDWARDS