Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDD NID MARW SY RAID Nid marw sy raid i mi o ddydd i ddydd i ymryddhau o allu rhyw dywyllwch, a rhwygo hoen enaid o ddrygioni hwnnw, a lladd holl ddeniadau'r llawr, fel pe bai amarch carchar a gafael ei ddigofaint yw fy hoedl yn hyn o fyd. Dwli yw deuoliaeth a chwyno hyll rhwng ysbryd a chnawd. Mae rhwymau na wyr angau rhyngom ym myd ac amodau glanwedd y goleuni: Y ddaear yn ein dihuno, a'i nwydau yn ein haddurno â'i daioni wedyn, wybren yn llwybrydd maeth ar dir a môr: Y gwynt yn glanhau'r gors a glaw o gylch yn golchi gwlad yn null dilwgu llwyd olygon ag enyniad gogoniannau. Ie, o'm rhan i, ym merw ein hoen, prin y clywir cri irad na chnul rhwng ysbryd a chnawd, o waith marw nid yw'n ddoeth i mi. EUROS BOWEN