Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEILIAU PROTESTANNAIDD Y NOFEL FODERN CYFANSODDWYD y ddarlith hon yn Saesneg chwarter canrif yn ôl ond hwyrach fod rhyw ddiddordeb dogfennol yn perthyn iddi o hyd. Beth bynnag oedd bwriadau y darlithydd yn yr oes anghysbell honno, mae'n gwbl amlwg erbyn hyn nad beirniadaeth lenyddol oedd y cynnyrch. Dengys bwyslais anghytbwys ar bwysigrwydd gwaith James Joyce gan anwybyddu'n llwyr gyfraniad mwy arwyddocaol D. H. Lawrence, yr olaf, mae'n debyg, o gewri'r nofel draddodiadol. Nid oes sôn yn y ddarlith am ddau wr o'r ochr babyddol megis, yr oedd eu gwaith yn pwyso'n drwm ar feddwl yr awdur ar y pryd, sef David Jones a Saunders Lewis. Yn wir yr oedd yn berffaith amlwg eisoes mai ysgrifennu'r olaf oedd y dylanwad dyfnaf ar waith y darlithydd. Maniffesto sydd yma a honno'n faniffesto ddigon Cymreig ei hysbryd, a hynny'n bennaf sy'n peri imi wneud yr ymdrech i'w throsi i'r famiaith pe bai'n unig er mwyn dod â hi'n ôl yn nes at lygaid y ffynnon. Dylid ychwanegu hefyd nad oeddwn i wedi dechrau sylweddoli'n llawn yn yr oes honno effaith y cyfryngau newydd ar grefft a chelfyddyd y cyfarwydd na pha mor agos oedd gwaith y nofelydd i swydd oesol y gwas difyr hwnnw. CYSTAL dechrau trwy ddatgan yn groyw nad oes a wnelo fy nhestun ddim oll â diwinyddiaeth yn y nofel gyfoes, na hyd yn oed â chredoau neu ddaliadau crefyddol nofelwyr arbennig. Fy mhriod faes yw astudiaeth ddigon anwrthrychol o ddylanwad problemau crefyddol a phroblemau moesol ar dechneg ysgrifennu nofel: neu, os yw hyn yn swnio'n oruchelgeisiol, sut y mae agwedd y nofelydd yn llywodraethu ar ei ddull o ysgrifennu: neu'n symlach fyth, sut y mae'r hyn sydd gan y nofelydd i'w ddweud yn cyflyru y dweud ei hun. Teitl addas arall i'm sylwadau fyddai 'Rhai problemau technegol ysgrifennu nofelau yn yr iaith Saesneg yn y cyfnod ar ôl Joyce.' Ond gwell osgoi swn cellweirus o academaidd, gan fod gobaith diddori darllenwyr yn gyffredinol yn ogystal â'r arbenigwyr. Mae'n weddol amlwg fod gwahaniaethu rhwng defnydd a dull, rhwng cynnwys a ffurf, yr un mor anodd a'r un mor ymarferol anfuddiol â cheisio gwahaniaethu rhwng y corff a'r enaid, tra bo'r corff yn fyw. Sut mae modd ysgaru meddwl oddi wrth fynegiant? Os artist o ryw fath yw'r nofelydd, nid yw'n cyrraedd safle broffesiynol heb fod ganddo'i dechneg yn ogystal â'i weledigaeth. Eto, er mwyn gwneud fy nadl yn glir, rhaid i ni wneud defnydd dros dro o'r gwahaniaeth tybiedig. Gorfu arnaf dynnu sylw at y gwahaniaeth, yn syml, oherwydd ymwneud diflino nofelydd mwyaf dawnus y ganrif yn yr iaith Saesneg â phroblemau ffurf a mynegiant. Er gwaethaf ei oerni clasurol, yr oedd James Joyce yn perthyn i'r ffrwd fawr o ysgrifennu Saesneg rhamantaidd a darddodd o gyhoeddi Lyrical Ballads yn 1798. Yn ei lyfr The True Voice if Feeling (1953) y mae Sir Herbert Read wedi cyfeirio at ddwy agwedd ar y mudiad llenyddol