Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BETH YW YSTYR YR YMGNAWDOLIAD I MI HEDDIW? TUA Chalan Mai, 1978, anfonais wahoddiad i nifer o wyr a gwragedd i gyfrannu i symposium ar 'Beth yw ystyr Yr Ymgnawdoliad i mi heddiw?' Fe gofir ein bod wedi cyhoeddi symposium y llynedd ar 'Yr Her i'r Eglwys.' Yr wyf yn dra diolchgar i bawb a dderbyniodd y gwahoddiad ac yr wyf yn mawr obeithio y bydd y cyfraniadau'n symbyliad i ddarllenwyr Y Traethodydd i feddwl am y pwnc ac yn faes trafodaeth i lawer cylch. Defnyddia un neu ddau o'n cyfranwyr y term 'myth,' ac y mae'n amlwg eu bod, wrth ysgrifennu, yn ymwybodol ddarfod cyhoeddi yn 1977 lyfr yn dwyn y teitl The Myth of God Incarnate. Hwyrach ei bod yn werth nodi yma fod pob un o'n cyfranwyr i raddau'n trin 'Yr Ymgnawdoliad' yn ei effaith ar ddynion, ac yn ogymaint ag y maent yn ei drin fel effaith yn hytrach na digwyddiad, y maent yn ei drin fel 'myth' yn un o ystyron lluosog y gair hwnnw, sef fel hanes am Dduw (dduw) a ddefnyddir gan bobl i esbonio ystyr eu profiadau a'u bodolaeth fel unigolion ac fel cymdeithas. Nid oes amheuaeth nad yw 'Yr Ymgnawdoliad' fel rhan o hanes 'Yr Efengyl' wedi gweithredu fel 'myth' i'r graddau y mae wedi bod yn borth i'r ffordd y mae llaweroedd o bobl y Gorllewin wedi dod i'w hadnabod eu hunain, i'w deall a'u hesbonio eu hunain, neu, os mynnir, i'r graddau y mae wedi bod yn fath ar siarter a sail i'w holl fywyd diwylliannol. Nid dyma'r lle i archwilio pwysigrwydd y dull 'mytholegol' o feddwl a'r lle a fu iddo yn nechreuad a datblygiad iaith, celfyddyd, cyfraith, gwyddoniaeth a thechnoleg. Gellir cyfeirio'r darllenydd at Ernst Cassirer, The Philosophy of Symbolic Forms (Trs. Ralph Mannheim), cyfrol 2. Ond y mae'n werth dweud nad hawdd fyddai gor-brisio arwyddocâd 'Yr Ymgnawdoliad' hyd yn oed fel 'myth' yng ngorffennol diwylliant y Gorllewin ac mai un her i ni fel Cristnogion yn y presennol yw iawn ddeall yr arwyddocâd hwnnw a gofalu na chollir golwg ar un o'r gwirioneddau yr oedd ac y mae ef fel ffenestr arnynt. J.E.C.W. Y GEIRIAU allweddol yn nheitl y symposiwm hwn yw'r tn gair olaf. Ni ofynnir i'r cyfranwyr ddehongli athrawiaeth "Yr Ymgnawdoliad" yn y Testament Newydd, nac ychwaith egluro credo'r Eglwys Fore nac eto ychwaith amddiffyn safbwynt diwinydd enwog a dylanwadol fel Barth. Gofynnir inni fynegi'n glir a dealladwy'r hyn sy'n wir inni yn "Yr Ymgnawdoliad," ac o'm safbwynt i, mae'r pwyslais hwn ar brofiad personol yn hytrach nag ar blethu geiriau huawdl a dysgedig mewn rhyw wagle amhersonol yn un iach a phriodol. Daw geiriau H. A. Williams yn ei gyfrol werthfawr The True