Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad ALBERT CAMUS (cyf. Emyr Tudwal Jones a Prys Morgan), Caligula, (Gwasg Prifysgol Cymru). Pris: 75c. Byddwn yn meddwl am Camus fel lladmerydd yr Hurt mewn llenyddiaeth, ond yn wahanol i ddramodwyr Theatr yr Hurt, mae'i ddramau yn fwy o drafodaethau ar hurtrwydd bodolaeth nag ydynt o ddelweddau ohono. Ond peidied neb â bod mor hurt â dweud mai peth hurt yw sylfaenu celfyddyd ar hurtrwydd. Ai diystyr yw dweud fod bywyd yn ddiystyr? Yn sicr nid dyna'r argraff a geir wrth ddarllen gweithiau Camus. Nid ildio'n llipa oddefol i'r sylweddoliad o hurtrwydd a wna, ond gwrthryfela. Fel Williams Parry yn ei gerdd 'A. E. Housman' (a adleisir yn rhagair Emyr Tudwal Jones i Caligula), yn ei wendid cyfyd lais/Yn erbyn trais dilead.' 'A'r hwn ni ddaeth i'r byd o'i fodd/A dry o'i anfodd ymaith. Fel y dywed Camus yn ei Le Mythe de Sisyphe, mae gwir wrthryfel yn golygu bod rhywun yn marw'n groes i'w ewyllys, heb ddod i delerau o gwbl â ffaith meidroldeb. Wrth edrych ar bethau o'r safbwynt hwnnw, fe all dyn gymryd awenau'i ryddid yn ei ddwylo'i hun, a darganfod angerdd llawenydd ynghanol ei ing. Nid negyddiaeth sydd yma, felly, ond safbwynt cadarnhaol, sy'n ein hannog i fyw er gwaethaf marwolaeth, i greu gobaith lie nad oes ond anobaith. Caligula oedd drama gyntaf Camus. Fe'i cyfansoddwyd yn 1938 a'i pherfformio gyntaf yn 1945. Er mai Ymerawdwr Rhufeinig o'r ganrif gyntaf yw'r prif gymeriad, does a wnelo'r ddrama ddim mwy â'r cyfnod hwnnw nag y mae a wnelo Buchedd Garmon â'r bumed ganrif. Fel Saunders Lewis, mynegi'i athroniaeth am fywyd a wna Camus, ac fel y dramodydd Cymraeg, fe wna hynny trwy gyfrwng cymeriadau sy'n ein hargyhoeddi dros dro fod ganddynt galon yn ogystal ag ymennydd. Calon garegog o galed, mae'n wir, yn achos Caligula, oherwydd mae'r cymeriad hwn yn ymgorfforiad o'r creulondeb mwyaf dieflig. Ond gan mai'i fan cychwyn yw'r ffaith sylfaenol fod 'dynion yn marw' ac nad ydyn nhw 'ddim yn hapus,' mae'i ysfa i 'wneud yr amhosib yn bosib' o leia'n lled ddealladwy. Fel Meursault yn L'Etranger, mae awydd Caligula i ymwrthod â'r gyflyraeth sy'n caethiwo dyn yn ei wneud yn greadur rhy 'annormal' inni allu ymuniaethu ag ef (mwy nag y gallwn ein huniaethu'n hunain ag Efnisien Saunders Lewis). Nid yw'n fodlon 'os na alla i newid trefn pethau, os na alla i beri i'r haul fachlud yn y dwyrain, i ddioddefaint encilio ac i bobl beidio â marw.' Er y gallasai'i angerdd i ymlynu wrth onestrwydd fod wedi'i arwain at ddaioni pur, fe'i gwelwn yn ymroi i ddrygioni pur, nes troi'n anghenfil annynol sy'n dienyddio'i ddeiliaid fesul un. Yng ngeiriau Helicon: 'Mae dyn yn marw am ei fod yn euog. Mae'n euog am ei fod o dan lywodraeth Caligula. Mae pawb o dan lywodraeth Caligula. Felly, mae pawb yn euog. O ganlyniad gwelir bod pawb yn marw. Mater o amser ac amynedd ydyw.' Fawr ryfedd i'r ddrama ennyn ymateb mor frwd ymysg y Ffrancwyr a'i gwelodd yn 1945, a hwythau wedi dioddef iau'r Natsïaid am bedair blynedd. Ac wrth reswm, mae edmygedd Camus o onestrwydd dychrynllyd Caligula yn gymysg â'i ddirmyg at ei amarch llwyr at ei gyd-ddynion. Ys gwn i a fydd unrhyw gynhyrchydd Cymraeg yn mentro Uwyfannu drama sy'n tanio cymaint ar ymennydd dyn ag ar ei fêr â hon? Hyd yn oed os na fydd, dylid croesawu'r cyfieithiad hynod argyhoeddiadol hwn am fod cryn flas i'w gael ar ddarllen y ddrama'n unig. Gyda'r diddordeb cynyddol yn y ddrama yn y Brifysgol yn Aberystwyth a Bangor, yn y Colegau Addysg, ac yn y Coleg Cerdd a Drama, bydd hwn yn ychwanegiad gwerthfawr at y gyfres o ddramâu'r byd sydd bellach ar gael yn Gymraeg. Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. JOHN ROWLANDS.