Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cristnogaeth a diwylliant YN YR UGAIN MLYNEDD diwethaf cafwyd datblygiadau diddorol ym myd athroniaeth crefydd. Os edrychwn yn ôl i'r pumdegau cawn yno anghytundeb o fath arbennig rhwng credinwyr ac anghredinwyr athronyddol. Awgrymodd yr anghredinwyr mai'r broblem oedd, nid nad oedd hawliau crefydd yn wir, ond eu bod yn ddiystyr. Dadleuodd y credinwyr, ar y llaw arall, fod modd dangos bod credoau crefyddol yn ystyrlon. Ond y pwynt pwysig oedd hwn: cytunai'r credinwyr a'r anghredinwyr fwy neu lai ar y math o safonau rhesymegol yr oedd rhaid i'r ddwy garfan eu bodloni. Yn yr ugain mlynedd diwethaf y newid pwysig sydd wedi digwydd yw hwn: awgrymodd rhai athronwyr mai'r camsyniad oedd cytuno ar y safonau rhesymegol yn y Ile cyntaf. Yr hyn a ddigwyddodd, yn ôl awgrym y rhain, oedd gwneud safonau ystyrlondeb sy'n berthynol i ran arbennig o iaith a gweithgarwch dyn, yn fesur o ystyrlondeb fel y cyfryw. Un esiampl amlwg yn ein diwylliant ni yw gwneud safonau gwyddoniaeth yn gyfystyr ag ystyr fel y cyfryw. Beth felly yw'r ateb? Yr ateb, meddir, yw edrych ar yr ystyr sydd gan gredoau crefyddol, yn hytrach na gwthio safonau allanol o ystyrlondeb ar y credoau. Rhaid edrych am ystyr y credoau crefyddol yn y defnydd sydd gan y credoau ym mywyd dyn. Yn He creu rhyw ddamcaniaeth i benderfynu'r hyn sydd i gyfrif fel ystyr, gwell edrych ar swyddogaeth syniadau ym mywyd dynion. Dyma ergyd gorchymyn Wittgenstein: "Peidiwch â meddwl. Edrychwch!" Ond, yn awr, mae anawsterau eraill yn codi os dilynwn awgrym Wittgenstein. Beth os gwelwn fod ystyr iaith crefydd yn wahanol i ystyr rhannau eraill o iaith? Wel, mae'n ymddangos fel canlyniad fod dosbarthiadau gwahanol ym mywyd dyn: moeseg, celfyddyd, diwydiant, crefydd, byd natur, ac yn y blaen ac yn y blaen. Y mae fel petai i bob dosbarth ei otonomi ei hun. Ni ellir cymysgu'r ystyr a berthyn i un dosbarth ag ystyr unrhyw ddosbarth arall. Neu, o leiaf, os digwydd y fath gymysgwch, mae hyn yn arwain i wahanol anawsterau. Yn ôl Wittgenstein, daw cymysgwch syniadoi trwy fethu gwahaniaethu rhwiig gramadeg arwynebol a gramadeg dwfn iaith. Y mae hyn i gyd yu eithaf gwir. Ond eto mae'n hawdd camddeall. Wrth ddweud fod gan ddosbarthiadau iaith a gweithgarwch dyn otonomi o ran ystyr, mae'n hawdd gwadu bod perthynas rhwng y gwahanol ddosbarthiadau. Ond ni olyga otonomi ystyr y dosbarthiadau fod y dosbarthiadau yn ddi-berthynas. I'r gwrthwyneb, heb y berthynas, byddai'r ystyron arbennig yn amhosibl. Er enghraifft, cymysgwch yw meddwl bod yr un ystyr i ddawns cvnhaeaf a thechnoleg y cynhaeaf. Meddyliodd rhai fod perthynas achosol rhwng y ddawns a'r cynhaeaf. Yn y gmirif ddiwethaf, er enghraifft, awgrymwyd mai rhyw fath o wyddoniaeth gyntefig oedd y ddawns ddewinol. Pan ddaw technoleg fodern i'r golwg, mae dydd y ddawns ar ben. Dangosir fod yr hen dybiaeth am gysylltiad achosol rhwng y ddawns a'r cynhaeaf yn ofergoelus. Ond nid y dawnswyr oedd yn ofergoelus, ond yr esbonwyr. Gwelwn fod y ddawns yn rhan o weithgarwch defodol dyn. Mae Wittgenstein yn ein hatgoffa ni fod pobl gyntefig yn dawnsio am law pan ddisgwylir glaw. Nid oes cysylltiad achosol rhwng y ddawns a dyfodiad y glaw. Pe bai hynny'n 1 Traddodwyd y papur hwn yn wreiddiol fd darlith i Gyngor Eglwysi Rhyddion Abertawe.