Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pa beth yw dyn? 'Roedd myfyrwyr Cymraeg Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn gwerthu eu papur, Llais y Lli, ar faes Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor, 1975*. 'Roedd llun o faint poster o'r diweddar Syr T. H. Parry-Williams, gyda'r papur, a than y llun, y gerdd ddau gwpled a ganodd Syr Thomas i'r Bardd: Canodd ei gerdd i gyfeiliant berw ei waed; Canodd hi, a safodd gwlad ar ei thraed. Canodd ei gân yn gyfalaw i derfysg Dyn; Canodd hi, ac nid yw ein llen yr un. Ymddangosodd y gerdd hon yn y gyfrol Ugain o Gerddi dan y testun 'Bardd', ond onid wyf yn mawr gamgymryd, T. Gwynn Jones a ysgogodd ei chyfansoddi. Mae'r hyn a ganodd Parry-Williams i arall, boed fardd penodol neu fardd fel y cyfryw, yn cael ei gymhwyso ato ef ei hun bellach. Rhaid sylwi ar ddau gymal, "nid yw ein llên yr un" a "cyfalaw i derfysg Dyn. Gellid meddwl yma am fodd a mater y bardd, er bod lle i ddadlau i ba raddau y gellir eu gwahanu. Mae dawn a chrefft Parry-Williams mor arbennig nes y gellir dweud nad yw ein llenyddiaeth wedi bod 'run fath er pan ymddangosodd ef yn y ffurfafen lenyddol. Dyma'r modd, ond beth am ei fater, "terfysg Dyn"? Mae'n awgrymu bod bardd a gymerodd Ddyn a'i dynged o ddifrif wedi gwneud y byd o wahaniaeth i lenyddiaeth ei wlad, "nid yw ein llên yr un." Mae'n golygu bod cymryd dyn a'r syniad o ddyn o ddifrif yn gadael ei ôl yn drwm ar lenyddiaeth cenedl. Mae gan T. H. Parry-Williams gerdd arall yn ei waith, "Yr Esgyrn Hyn," sy'n agor â'r cwpled hwn: Beth ydwyt ti a minnau, frawd, Ond swp o esgyrn mewn gwisg o gnawd? Nid yw'n gweld bod gwahaniaeth rhyngddo ac "ysgerbwd y ddafad wrth gorlan Rhos Boeth." Nid yw'r ferch hithau'n ddim gwahanol, oherwydd bod siom, serch, a sarhad yn darfod "pan fferro'r gwaed": Nid erys dim o'r hyn wyt i mi — Dim ond dy ddannedd gwynion di. Esgyrn y ferch yn unig a erys: Nid ydym ond esgyrn. Chwardd oni ddêl Dy ddannedd i'r golwg o'u cuddfan gêl.3 Mae'n gerdd gwbl sinicaidd a digalon, ac yn peri inni feddwl mai i siniciaeth ddigalon y'n harweinir gan fardd sy'n cymryd dyn a'i derfysg o ddifrif. Efallai fod peth cysur inni yn is-deitl y gerdd, "Ffansi'r Funud," a phwy ohonom a feiddiai wadu nas daliwyd ef ar rai adegau gan feddyliau digalon fel hyn? Ond awgrymaf fod ateb arall hefyd yn y gerdd 'Bardd,' o'i chymhwyso at Parry-Williams ei hun. Os "swp o esgyrn mewn gwisg o gnawd" ydoedd, ni allaf weld y gallai fod wedi rhoddi inni farddoniaeth o'r fath ag y gellir dweud Traddodwyd sylwedd yr agoriad hwn i gyfarfod o Henaduriaeth Dyffryn Conwy ym Mryn Mawr, Betws-y-Coed, ar Fawrth 24, 1976.