Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pedwar arloeswr seiciatreg YMDDENGYS na thalwyd gwrogaeth deilwng i'r cyfraniad tra sylweddol a wnaed gan feddygon o Gymry i faes astudiaeth o anhwylderau'r meddwl. Anwybyddwyd i raddau helaeth wreiddioldeb a disgleirdeb eu gwaith, er iddynt fraenaru'r tir yn gynnar iawn yn y rhandir arbennig hwn o feddygaeth. Tybir felly mai priodol yw atgoffa'r Gymru bresennol am bedwar arloeswr a fu'n benaethiaid ac arweinyddion yn eu dydd, ac fe erys ôl eu llafurwaith hyd heddiw ar y byd seiciatryddol. 'Rwy'n cyfeirio yn y lle cyntaf at James Cowles Prichard (1786-1848), a gydnabyddir fel y prif ysgogydd yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dilynwyd ef gan William Bevan Lewis (1847-1929), gwr o allu a dylanwad cyfatebol yn ystod ail hanner y ganrif. Ac yna yn hanner cyntaf y ganrif bresennol gwnaed cyfraniadau cyfoethog a chyfochrog gan Robert Jones (1857-1943), ac Ernest Jones (1879-1958); y naill ym maes seiciatreg a'i weinyddiaeth glinigol, a'r llall fel y disgwylid gan ddisgybl i Sigmund Freud ym maes dadansoddiad-meddylegol (Psycho-analysis), a hynny am y tro cyntaf ym Mhrydain. Ganwyd James Cowles Prichard yn 1786 i deulu o Grynwyr yn Ross-on-Wye (? Rhos-ar-Wy), mewn rhan o Swydd Henffordd a fu'n Gymreigaidd iawn ar un adeg. Enwau ei rieni oedd Thomas a Mary Prichard, ac fe wyddys mai gwr o Sir Fynwy oedd y tad. Mae'n amlwg fod y cartref yn un arbennig o ddiwylliedig oblegid yno ­ gyda chymorth tiwtoriaid, wrth gwrs, ond yn bennaf trwy ei ymdrechion ei hun daeth y bachgen yn feistr ar y Gymraeg a'r Saesneg, yn rhugl yn Ffrangeg, Sbaeneg ac Eidaleg; yn meddu yn ogystal, fel y disgwylid, y grwndwal 'normal' yn Lladin a Groeg. Symud- odd y teulu i Fryste, ac yn fuan wedyn dechreuodd James ar ei gwrs fel efryd- ydd meddygol yn Ysbyty Sant Thomas yn Llundain, gan symud ymlaen oddi yno i Gaeredin i astudio metaffiseg ac athroniaeth naturiol yn ogystal â meddygaeth. Graddiodd fel meddyg yn 1808, ac yn ystod cyfnodau pellach yng Nghaer-grawnt a Rhydychen astudiodd y clasuron a mathemateg. Gosodwyd sylfaen diwylliannol cadarn a llydan i'w alwedigaeth fel meddyg. Dechreuodd James Cowles Prichard mewn practis ym Mryste ym 1810, ac yn fuan iawn wedyn apwyntiwyd ef yn physigwr i Ysbyty Sant Pedr. Yno y dechreuodd ar ei waith arloesol a threiddgar i bwnc anhydrin gwallgofrwydd, a hynny ar adeg pan na chawsai'r dioddefwyr fawr o gydymdeimlad ar law eu teuluoedd na chan gymdeithas yn gyffredinol. Yn wir, arfer y 'cyhoedd' oedd manteisio ar bob cyfle i wylio ymddygiad yr anffodusion, ac ymddengys yn ôl yr hanes y mwynheid yr olygfa o'r trueiniaid yn ymdrybaeddu yn eu gorffwylledd fel math o adloniant. Dyma'r adeg pan nad oedd fawr ddim dealltwriaeth o natur y salwch, ac nad oedd dim i'w gynnig fel triniaeth ond cadwraeth gaethiwus mewn gefynnau. I'r maes diobaith yma y mentrodd meddyg ifanc nad oedd ond pump ar hugain oed. Ymhen pum mlynedd apwyntiwyd ef yn physigwr i Ysbyty Bryste, ac yn fuan iawn daeth yn adnabyddus am ei ddoniau ymgynghorol yn y siroedd cyfagos yn Lloegr ac mewn rhannau o Ddeheudir Cymru. Cafodd radd anrhydeddus mewn meddygaeth gan Brifysgol Rhydychen, ac fe'i hetholwyd yn F.R.S. yn 1827. Mae'n debygol ei fod yn gyfeillgar yn ystod y cyfnod yma â Chymro