Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Galw i gof y dyddiau o'r blaen Marcel Proust a llenyddiaeth fediefal Ffrainc FEL y gwyddys, ymgais lew yw'r nofel A la recherche du temps perdu (15 cyfrol, 1913-27) gan Marce! Proust, un o nofelwyr mawr ein cyfnod ni, i ennill yn ôl yr amser a gollwyd, neu ymdrech orchestol i ailgreu yn (a thrwy) y presennol anwadal, symudliw, y gorffennol sydd, yn amlach na pheidio, wedi caledu i fod yn rhyw fath ar realiti cyffredinol a throsgynnol. Y mae ynddi hefyd, wrth gwrs, themâu eraill, penodau lle y bydd Proust yn mynd ar drywydd sgwarnogod fel cariad, eiddigedd, cofio "anfwriadol," y drefn gymdeithasol, a'r celfyddydau. Gellir ystyried y nofel hon, hefyd, fel pob nofel arall, hwyrach, yn arddangosiad o bersonoliaeth yr awdur, y bachgen unig, ecsentrig a aned ac a fagwyd ym Mharis yn ystod y cyfnod rhyfeddol hwnnw sy'n ymestyn o 1871 hyd at 1922 (blwyddyn un o gynaeafau gwin gorau'r gorffennol), a'i dad yn Athro Meddygaeth ym Mhrifysgol Paris, a'i fam hynaws, gyfoethog, yn hanfod o dras Iddewig. Llanc gwanllyd, asmatig oedd Proust, llanc a droes y dydd yn nos, a'r nos yn ddydd, a llwyddo, er gwaethaf ei gyflwr niwrotig (neu efallai oherwydd ei gyflwr niwrotig), i sgrifennu fersiwn cyntaf ei nofel faith erbyn 1912, pan nad oedd ond yn 41 mlwydd oed. Dyma enghraifft nodedig o anhwylder yn troi'n fendith ac yn gaffaeliad i'r llenor a'r artist. Anodd meddwl am ddyn cyhyrog, heini, dyn yr awyr agored„yn mynd ati i gyfansoddi gwaith ac iddo ansawdd mor arbennig ag sydd i Ar drywydd yr amser a gollwyd. Yn ei ymgais i adennill y dyddiau gynt, y mae Proust yn cael ei ddenu'n ôl i'r Oesoedd Canol, ac i lenyddiaeth fediefal Ffrainc yn arbennig. Ceir yn nofel Proust liaws o gyfeiriadau at bensaernïaeth y cyfnod hwnnw, at y Gothig a'r Ffiwdal. Taflai hudlusern Combray (h.y. Illiers ger Chartres) ddelweddau o fyd y nos Merofingaidd o flaen llygaid yr hogyn Marcel, gan ei amgylchynu â champweithiau'r penseiri cynnar a chrefftwyr gorau'r cyfnod Gothig mewn gwydr lliw. Cuddiai eglwys Combray tu mewn i'w muriau trwchus "yr unfed ganrif ar ddeg anwar." O bryd i'w gilydd, ymddangosai ei chladdgell fel petai wedi ei throchi ym mwrllwch y "nos merofingaidd" (I, 61) I Elstir (arlunydd mawr yn y nofel), 'roedd y golygfeydd allan o fywyd Mair, a oedd wedi eu cerfio ar ei chyntedd, yn un o'r datganiadau tyneraf, mwyaf ysbrydoledig o'r "gerdd hir o fawl ac o addoliad a gyfansoddwyd gan yr Oesoedd Canol i ogoniant y Fair Forwyn" (I, 840). A breuddwyd cyson adroddwr ifanc y stori, sef Marcel, oedd dod o hyd i ryw synthesis a'i galluogai i ddisgrifio golwg arbennig ar y môr yn nhermau llên yr Oesoedd Canol. Yn nofel Proust fe bortreedir y cymeriadau yn aml iawn yng ngoleuni'r syniadau mediefal neu ffiwdal y byddant yn eu hawgrymu iddo. Yn nýchymyg yr awdur, y mae ymddiddan Madame de Guermantes wedi ei breintio ymlaen llaw â hynodrwydd, dyfnder, a dirgelwch rhyw dapestri mediefal neu ffenestr Gothig o wydr lliw. Pan fydd Madame de Guermantes yn gwrando ar Gilbert, ei chefnder ecsentrig, fe fydd yn honni ei bod yn cael ei syfrdanu fel petai'n cael ei chyfarch gan "orweddedigion yr hen feddrodau Gothig," a'i hunig awydd yw gadael "y garreg fyw hon" yn "ei chyfnod canoloesol ei hunan" (II, 523). Cristion crefyddol "yn null yr Oesoedd Canol" yw Charlus, dyn sy'n credu o galon ym modolaeth wirioneddol llu o broffwydi, apostolion,