Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Drama Lydaweg yr unfed ganrif ar bymtheg I'R SAWL sy'n ymlwybro drwy lenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg ac yn teimlo efallai nad yw honno mor broffesiynol â'r ddeuddegfed nac mor ddawnus â'r bedwaredd ar ddeg nac mor amryliw â'r ddeunawfed nac mor agos bersonol â'r ugeinfed, y mae yna sawl elfen sy'n gallu hwyluso'i daith. Y cyfnod hwnnw, yn anad yr un yn hanes ein llenyddiaeth, a luniodd ein hiaith lenyddol ddiweddar. Y mae arddull rhyddiaith yn y cyfnod boed honno'n Giceronaidd neu'n Senecaidd — yn wledd i bawb clustdenau. Y mae'r canu rhydd yn ffres ac yn dlws, a'r ymgiprys rhwng yr hen fydrau a'r mydrau newydd yn miniogi'r ymateb. Ac y mae holl gyffro y Dadeni Dysg a'r Diwygiad Protestannaidd o ran deall a theimlad yn ymbriodi â'r traddodiad Cymraeg mewn modd cyfareddol. Nid oes braidd dim o'r elfennau hyn i leddfu taith y sawl sy'n pori drwy lenyddiaeth Lydaweg. Os teimlwn fod honno yn ganrif gymharol "wag" yn llenyddiaeth Gymraeg, yna y mae llenyddiaeth Lydaweg yn debyg o fod yn ysigol hollol. Ac eto, os eir ati i feddwl am farddoniaeth a drama Lydaweg yn bennaf o safbwynt mydryddol, rwy'n credu y gellir canfod ynddynt nid yn unig her i'r meddwl a diddordeb i'r ymateb esthetig, eithr hefyd fod yna wreiddiau cudd a dwfn mewn gorffennol cyfoethog a oedd yn ymgordeddu o'r golwg ynghyd â gwreiddiau dyfnaf llenyddiaeth Gymraeg. Er mwyn parhau ein harolwg o lenyddiaeth Lydaweg, carwn ymgyfyngu, wrth fwrw golwg dros weithiau'r unfed ganrif ar bymtheg, i hynny o waith dramatig sydd ar gael ac y gellir mentro ei ddyddio yn y ganrif honno. Y mae'r dasg o ddyddio yn para'n anfoddhaol ar hyn o bryd gan fod yr awduraeth i gyd yn anhysbys a chan fod pob un o'r llawysgrifau neu'r argraffiadau o'r dramâu hyn yn ddiweddarach o dipyn na dyddiad y cyfansoddi. Dichon fod ambell un o'r cyfansoddiadau a ddodwyd gennym yn y bymthegfed ganrif yn perthyn i'r ganrif gynt. Beth bynnag, y mae yna bum dogfen y carwn eu lleoli yn yr unfed ganrif ar bymtheg ar gyfer hyn o ysgrif: 1 An Passion hac an Resurrection sydd hefyd yn dwyn y teitl Burzud braz Jezuz, 1530. (Le Grand Mystère de Jésus, gol. La Villemarqué, Paris, 1865) 2 Buhez Santes Barba, 1557, ail arg. 1647, (Le Mystère de sainte Barbe, gol. E. Ernault, Pans, 1888) 3 Buhez Sant Gwenole, 1580 (L'Ancien Mystère de saint Guénolé, gol. E. Ernault, Rennes, 1935; ceir hefyd arg. yn 1889 gan F-M Luzel, Quimper; gw. hefyd R. C. XV 245-272) Dyma dair drama firagl, a'r olaf ohonynt yw'r cyfansoddiad mwyaf 'gwreiddiol' a gafwyd hyd yn hyn yn yr iaith Lydaweg. Ceir hefyd yn yr. un categori 4 'Dinistr Jerwsalem, cyfres o ddrylliau di-deitl a di-ddyddiad (La Déstruction de Jérusalem gol. R. Hemon, Dublin Inst. for Advance Studies, 1969; gw. P. Le Nestour ym Melanges d'Arbois de Jubain ville, Paris, 1906, 129-151) Tuedda R. Hemon i osod y ddrama hon yn y bymthegfed yn hytrach nag yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ond heb fod yn ddogmatig. Ochr yn ochr â'r rheini diddorol sylwi, er nad oes ond gweddillion drylliog ar ôl i'r gomedi ddramatig (bwrlesg)